Gorfodi cynllunio

Gallwn ymchwilio i achosion o dorri rheolaeth gynllunio. Nodir y modd y cynhaliwn yr ymchwiliadau hyn yn ein siarter cydymffurfiaeth gynllunio. Dylech ddarllen y siarter os hoffech roi gwybod am doriad cynllunio neu os honnir eich bod wedi torri'r rheolau.

Siarter cydymffurfiaeth cynllunio

Ymchwiliwn i'r achosion canlynol o dorri rheolaeth gynllunio:

  • Datblygiadau (h.y. gwaith adeiladu neu newid defnydd tir) sy’n gofyn am ganiatâd cynllunio ond sydd wedi mynd rhagddynt heb ganiatâd
  • Datblygiadau sydd wedi mynd rhagddynt yn groes i gynlluniau a gymeradwywyd gan y Cyngor yn rhan o ganiatâd cynllunio
  • Datblygiadau sydd wedi mynd rhagddynt yn groes i amodau a osodwyd gan y Cyngor yn rhan o ganiatâd cynllunio
  • Newidiadau i Adeiladau Rhestredig heb ganiatâd
  • Dymchwel strwythurau mewn Ardal Gadwraeth heb ganiatâd
  • Difrod bwriadol i goed gwarchodedig, h.y. y rhai sy’n destun Gorchymyn Diogelu Coed neu sydd mewn Ardal Gadwraeth
  • Dadwreiddio gwrych annomestig
  • Hysbysebion sydd angen caniatâd ond nad ydynt wedi’i dderbyn
  • Eiddo blêr sy’n cael effaith newidiol ar yr ardal ehangach

Rhoi gwybod am dorri cynllunio

Os hoffech i ni ymchwilio i achos posibl o dorri rheolau cynllunio, gallwch Rhoi gwybod am achos o dorri rheolau cynllunio ar-lein. 

Rhoi gwybod am achos o dorri rheolau cynllunio

Mae'r holl fanylion personol yn gyfrinachol ac ni fyddant yn cael eu gwneud yn gyhoeddus wrth ddelio â'r gŵyn. Fodd bynnag, ar adegau prin, gydag achosion difrifol o dorri rheolau cynllunio sy'n arwain at apêl, mae'n ofynnol i ni roi manylion y gŵyn i’r Arolygydd Cynllunio a’r apelydd, a fydd yn cynnwys eich enw a'ch cyfeiriad.

Efallai y byddwch hefyd yn cael eich gwahodd i ddarparu datganiad tyst i gefnogi eich cwyn ac i'n helpu ni, ond mae hyn yn wirfoddol.

Oni bai bod gennych reswm arbennig dros beidio â rhoi eich manylion (y byddwch wedi’i esbonio i swyddog gorfodi), ni fydd cwynion dienw yn cael eu hymchwilio.

Pan nad yw camau gorfodi cynllunio yn bosibl

Ni fyddwn yn gallu cymryd camau gorfodi yn yr achosion canlynol:

  • Os nad yw’r gwaith angen caniatâd.
  • Os oes gan y datblygiad y caniatâd angenrheidiol yn barod.
  • Os yw'r gwaith wedi dod yn gyfreithiol oherwydd treigl amser, hyd yn oed os nad oedd wedi cael caniatâd yn y lle cyntaf.
  • Ystyrir mai mân doriad ydyw, heb unrhyw effeithiau sylweddol. 
  • Pan nodir mater nad ydyw’n ymwneud â chynllunio. Yn yr achosion hyn byddwn yn trosglwyddo'r gŵyn i adran berthnasol y Cyngor neu gorff arall. 

Apeliadau yn erbyn camau gorfodi

Os hoffech chi apelio yn erbyn cais neu wedi derbyn hysbysiad gorfodi yr ydych yn anghytuno ag ef, yna gallwch apelio i'r Arolygiaeth Gynllunio Cymru.

Mae'n rhaid i'r Arolygiaeth Gynllunio gael apêl cyn y dyddiad y daw’r hysbysiad gorfodi i rym.

Unwaith y bydd apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi yn cael ei chyflwyno, mae’r mater yn cael ei ohirio hyd nes y bydd yr Arolygydd yn cyhoeddi ei benderfyniad. Nid yw erlyniad yn bosibl ar yr adeg hon .

Apelio i'r Arolygiaeth Gynllunio Cymru (gwefan allanol)

Gallwch ddod o hyd i ganllawiau apelio ar y Porth Cynllunio neu cysylltwch â ni am fwy o fanylion.

Cael gwybod sut i apelio os ydych wedi gwrthodwyd caniatâd cynllunio.