Caniatâd cynllunio ar gyfer Gwarchod Plant a Gofal Dydd Plant

Os ydych yn rhedeg neu'n bwriadu rhedeg busnes Gwarchod Plant neu Ofal Dydd Plant, efallai y bydd arnoch angen caniatâd cynllunio ar gyfer yr eiddo. Mae caniatâd cynllunio yn wahanol i safonau gwarchod plant a gall fod angen caniatâd cynllunio arnoch os;

  • Datblygir adeiladau newydd
  • Adeiladau presennol i gael eu hymestyn neu eu haddasu
  • Ystyrir bod defnyddio gwarchod plant neu ofal dydd yn newid defnydd sylweddol i'r adeilad (gallai newid defnydd sylweddol gynnwys lle mae'r busnes neu ddefnydd dibreswyl yn gyson yn cynhyrchu ymwelwyr, traffig, sŵn neu fygdarthau tu hwnt i'r hyn y disgwylir fel arfer os byddai’r eiddo yn cael ei ddefnyddio fel cartref)

Nid oes angen caniatâd cynllunio fel arfer os nad yw rhan o gartref a ddefnyddir at ddibenion busnes yn newid cymeriad cyffredinol o ddefnydd yr eiddo fel annedd.

Mynnwch gyngor ar p'un a oes angen caniatâd cynllunio arnoch

Os ydych yn ystyried gwneud gwaith gwarchod plant yn y cartref, rydym yn argymell eich bod yn cael cyngor yn gynnar.

Gallwn ddarparu barn anffurfiol ar p'un ai a ydych angen gwneud cais am ganiatâd cynllunio ai peidio. Gallwch lawrlwytho ein holiaduron gwarchod plant a llythyr safonol i'w lenwi a'i anfon atom, fel y gallwn ddweud wrthych os oes angen caniatâd cynllunio ai peidio.

Holiadur gwarchod plant a'r llythyr safonol (MS Word, KB)

Gallwch e-bostio eich holiadur wedi'i lenwi i cynllunio@sirddinbych.gov.uk neu ei bostio at y cyfeiriad yma: Blwch Post 62, Rhuthun, LL15 9AZ.

Tystysgrif cyfreithlondeb defnydd neu ddatblygiad arfaethedig

Os hoffech fod yn sicr nad oes angen caniatâd cynllunio arnoch, gallwch wneud cais am Dystysgrif Datblygiad Cyfreithlon (LDC). Dewch i wybod mwy, gan gynnwys sut i wneud cais am Dystysgrif Datblygiad Cyfreithlon (gwefan allanol). Codir tâl am hyn a dylech gael cyngor gan asiant cynllunio gan y bydd angen cynlluniau graddedig.

Sut i wneud cais am ganiatâd cynllunio

Os oes angen gwneud cais am ganiatâd cynllunio, gallwch wneud cais ar-lein drwy wefan y Porth Cynllunio.

Gwneud cais am ganiatâd cynllunio drwy'r Porth Cynllunio (gwefan allanol)