Newidiadau i'r ffioedd ar gyfer ceisiadau cynllunio a cheisiadau cysylltiedig o 1 Rhagfyr 2025
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhannu’r llythyr canllaw canlynol i holl Awdurdodau Cynllunio Lleol yng Nghymru:
Llythyr Llywodraeth Cymru - newidiadau i ffioedd cynllunio a cheisiadau cysylltiedig o 1 Rhagfyr 2025 (PDF, 177KB)
Am ffioedd cais cynllunio
Mae'r rhan fwyaf o geisiadau cynllunio neu geisiadau am ganiatâd yn gofyn am ffi. Mae'r swm rydych chi'n ei dalu yn dibynnu ar fath a maint y datblygiad. Nid oes angen ffi ar rai ceisiadau. Efallai y bydd gan eraill ffi is. Mae hyn yn dibynnu ar y math o gais a'ch amgylchiadau.
Ffioedd cynllunio o 1 Rhagfyr 2025
O’r 1 Rhagfyr 2025 ymlaen, bydd ffioedd wedi'u diweddaru yn berthnasol i:
- geisiadau cynllunio
- gwelliannau
- ceisiadau tybiedig
- ymweliad â'r safle
Mae’r rhain wedi’u gosod yn y dogfennau isod: