Colli swydd

Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn ceisio osgoi diswyddo lle bo’n bosib. Lle nad oes modd osgoi colli swyddi, bydd y cyngor yn trin y mater yn deg.

Mae’n polisi diswyddo’n berthnasol i holl weithwyr Cyngor Sir Ddinbych ar wahân i:

  • Weithwyr a benodwyd gan Gorff Llywodraethu Ysgol;
  • Cyfarwyddwyr a Phenaethiaid Gwasanaeth (bydd gweithdrefnau cenedlaethol eraill yn berthnasol.

Mesurau i osgoi diswyddiadau gorfodol

Byddwn yn cymryd pob cam rhesymol i osgoi diswyddiadau gorfodol drwy ystyried dewisiadau eraill; er enghraifft:

  • Ceisio ceisiadau ar gyfer ymddeoliad cynnar neu ddiswyddiadau gwirfoddol;
  • Ceisio ceisiadau gan weithwyr presennol i weithio’n hyblyg;
  • Diswyddo gweithwyr contract neu achlysurol (nid yw hyn yn cynnwys gweithwyr cyfnod penodol);
  • Cyfyngiadau ar recriwtio;
  • Gostwng neu wahardd goramser;
  • Llenwi swyddi gwag o weithwyr presennol neu weithwyr mewn peryg;
  • Ailhyfforddi ac adleoli i rannau eraill o’r cyngor

Bydd y cyngor yn ystyried pob dewis amgen a gyflwynir gan weithwyr neu eu cynrychiolwyr.

Polisi Diswyddo (PDF, 817KB)

Dogfennau cysylltiedig