Apwyntiadau meddygol

Amser i ffwrdd i fynychu apwyntiadau meddygol a sgrinio meddygol

Gweithwyr oriau hyblyg

Dylid cymryd apwyntiadau meddygol arferol, gan gynnwys apwyntiadau deintyddol yn amser y gweithiwr ei hun, a'u cymryd y tu allan i'r diwrnod gwaith pryd bynnag y bo modd.

Bydd gofyn i chi glocio allan i fynychu apwyntiadau o'r fath, neu gofnodi’r absenoldeb yn y drefn arferol, ac ni fyddwch yn cael eich credydu am yr amser hwn.

Os ydych chi’n mynychu apwyntiadau ysbyty bydd gofyn i chi glocio allan, neu gofnodi’r absenoldeb yn y drefn arferol, a byddwch yn cael eich credydu am yr amser. Bydd apwyntiadau ysbyty sy'n hanner diwrnod neu fwy yn cael eu hystyried yn absenoldeb oherwydd salwch.

Os ydych chi’n feichiog ac yn mynychu apwyntiadau cynenedigol neu os ydych chi’n mynychu sgrinio meddygol ar gyfer cancr, dylech glocio allan os ydych chi’n defnyddio’r system honno neu gofnodi’r absenoldeb fel amser i ffwrdd i fynychu apwyntiadau meddygol a sgrinio meddygol.

Gweithwyr heb drefniadau gweithio hyblyg

Dylech geisio trefnu apwyntiadau meddygol, gan gynnwys apwyntiadau deintyddol, y tu allan i’ch oriau gweithio arferol. Os nad yw hyn yn bosibl, fe all eich rheolwr atebol roi amser i ffwrdd i chi gyda thâl.

Os ydych chi’n mynychu apwyntiadau ysbyty bydd gofyn i chi glocio allan, neu gofnodi’r absenoldeb yn y drefn arferol, a byddwch yn cael eich credydu am yr amser hwn. Bydd apwyntiadau ysbyty sy'n hanner diwrnod neu fwy yn cael eu hystyried yn absenoldeb oherwydd salwch.

Os ydych chi’n feichiog ac yn mynychu apwyntiadau cynenedigol neu os ydych chi’n mynychu sgrinio meddygol ar gyfer cancr, byddwch yn gallu cymryd amser i ffwrdd gyda thâl.