Polisi Deall Maethu Sir Ddinbych

Gweithio i Sir Ddinbych a Maethu i Sir Ddinbych

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi'r cyfraniad y mae gofalwyr maeth yn ei wneud i gymdeithas ac yn enwedig i fywydau plant sy'n derbyn gofal. Mae Sir Ddinbych yn deall bod angen rhywfaint o hyblygrwydd yn nhrefniadau gweithio gofalwyr maeth sy'n gweithio i'r Cyngor er mwyn bodloni anghenion y plant maen nhw’n gofalu amdanynt.

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi ymrwymo i gefnogi unrhyw aelod o staff sy’n ofalwr maeth neu’n ofalwr maeth unigolyn cysylltiedig cymeradwy, neu sydd yn y broses o ddod yn ofalwyr maeth ar gyfer Maethu Cymru Sir Ddinbych neu unrhyw un o awdurdodau lleol eraill Maethu Cymru.

Polisi Deall Maethu Sir Ddinbych (PDF, 221KB)