Ein hymagwedd at weithio’n hyblyg
Nod y Cyngor yw galluogi gweithwyr i fod â mwy o ddewis ynglŷn â sut a phryd maent yn gweithio. Bydd pob penderfyniad ynglŷn â gweithio’n hyblyg yn cychwyn o’r hyn sy’n rhoi’r canlyniadau gorau posib’ i drigolion, defnyddwyr gwasanaeth, cwsmeriaid, y Cyngor a budd-ddeiliaid rŵan ac yn y dyfodol. Mae angen i reolwyr ystyried a gwneud y mwyaf o gyfleoedd i’w gweithwyr weithio’n hyblyg. I gefnogi darparu’r gwasanaeth, bydd gweithwyr yn cael eu hannog i weithio mewn sawl ffordd. Mae’r prif enghreifftiau’n cynnwys:
- gweithio o’r lleoliad gwaith sydd yn eu contract
- gweithio gartref
- gweithio o ddesg yn un o swyddfeydd y Cyngor yn unrhyw le yn y Sir
- gweithio ar safle cwsmeriaid neu gleientiaid
- gweithio yn un o lyfrgelloedd y Cyngor
Mae ein hymagwedd at weithio’n hyblyg yn plethu â gweledigaeth y Cyngor i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, gan roi pwyslais ar bwysigrwydd cynaliadwyedd ac iechyd a lles gweithwyr a’r gymuned. Mae manteision cydbwysedd gwell rhwng bywyd a gwaith, cyswllt â gweithwyr a llai o deithio’n cyfrannu’n uniongyrchol at y flaenoriaeth strategol hon.
Dulliau Gweithio
Mae’r Cyngor wedi creu 3 dull o weithio.
Gweithiwr mewn Lleoliad Sefydlog
Gweithiwr mewn lleoliad gwaith sy’n gweithio o swyddfa, depo neu adeilad sy’n eiddo i’r Cyngor – er enghraifft, derbynnydd, gweithiwr gwasanaethau stryd neu gynorthwyydd arlwyo. Bydd gweithiwr mewn lleoliad sefydlog fel arfer yn aros wrth orsaf waith neu fan gweithio am y rhan fwyaf o’r diwrnod. Dim ond mewn amgylchiadau prin y bydd gweithwyr yn cael gorsaf waith sefydlog oherwydd natur y swydd neu ofynion penodol o ran gorsaf waith.
Gweithio’n Hyblyg
Gall gweithiwr gyflawni dyletswyddau o gyfuniad o leoliadau priodol, er enghraifft, gweithio gartref, gweithio yn un o adeiladau’r Cyngor neu yn y gymuned yn ymweld â phobl a/neu i fynd i gyfarfodydd pan fo angen. Gall gweithiwr ystwyth fod yn Swyddog Gweinyddol, Rheolwr Prosiectau, Swyddog Cyllid neu AD, er enghraifft.
Gweithiwr Teithiol
Gweithiwr sy’n gweithio mewn lleoliadau gwahanol bob dydd o fewn y gymuned, fel arfer oddi wrth y gweithle sydd yn eu contract, er enghraifft, gweithwyr cynnal a chadw adeiladau. Darllenwch y Polisi Teithio a Chynhaliaeth am fwy o wybodaeth am deithio a chynhaliaeth i weithwyr teithiol.
Wrth asesu a yw swydd yn addas ar gyfer gweithio’n hyblyg, bydd angen i reolwyr ystyried natur y gwaith. Bydd rhai swyddi nad ydynt yn addas i weithio’n hyblyg ynddynt a bydd blaenoriaeth i’r anghenion busnes. I rai nad ydynt yn disgyn i unrhyw gategori penodol uchod, bydd eu hamgylchiadau’n cael eu hystyried yn unigol.