Offer Sgrin Arddangos
Fel cyflogwr, rhaid i ni ddiogelu ein gweithwyr rhag y risgiau iechyd o weithio gydag offer sgrin arddangos (DSE), megis cyfrifiaduron personol, gliniaduron, tabledi a ffonau clyfar.
Mae'r Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Offer Sgrin Arddangos) yn berthnasol i weithwyr sy'n defnyddio DSE bob dydd am gyfnodau parhaus o awr neu fwy. Rydym yn disgrifio'r gweithwyr hyn fel 'defnyddwyr DSE'. Nid yw'r rheoliadau'n berthnasol i weithwyr sy'n defnyddio DSE yn anaml neu'n ei ddefnyddio am gyfnod byr yn unig.
Gall defnydd anghywir CSA, neu weithfannau neu amgylcheddau gwaith wedi’u dylunio’n wael arwain at boen gwddf, cefn, breichiau, arddyrnau a dwylo, yn ogystal â blinder a straen i'r llygaid. Efallai na fydd yr achosion bob amser yn amlwg.
Lle bo’r rheoliadau’n berthnasol, dylai’r Rheolwr sicrhau bod gweithwyr yn cynnal asesiad DSE (Mewnrwyd LINC) a’i gyflwyno i’w rheolwr i’w adolygu.
Mae angen cynnal asesiad risg newydd os oes newid i’r defnyddiwr, newid i’r offer, neu o ran lleoliad neu osodiad.
Dylai gweithwyr hyblyg sy'n defnyddio offer DSE am gyfnodau estynedig ddilyn y broses hon ar gyfer pob lleoliad.
Profion llygaid ar gyfer defnyddwyr DSE
Rhaid i gyflogwr ddarparu prawf golwg ar gyfer defnyddiwr DSE os bydd yn gofyn am un. Rhaid i'r cyflogwr dalu am y prawf hefyd. Dylai hwn fod yn brawf llygaid a golwg llawn gan gynnwys prawf golwg ac archwiliad llygaid.
Sbectol ar gyfer gwaith DSE
Dim ond os yw'r prawf yn dangos bod angen sbectol arbennig ar weithiwr a ragnodwyd ar gyfer y pellter yr edrychir ar y sgrin, y mae'n rhaid i gyflogwyr dalu am sbectol ar gyfer gwaith DSE. Os yw presgripsiwn cyffredin yn addas, nid oes rhaid i gyflogwyr dalu am sbectol.
Cynllun Talebau Specsavers
Yng Nghyngor Sir Ddinbych rydym yn defnyddio’r cynllun Talebau Specsavers Corfforaethol a fydd yn talu am bris pâr o sbectol pellter canol (pc) yn unig ac yn benodol at ddefnydd VDU os oes angen. Ni ddarperir cywiriad arall o dan y daleb h.y. agos neu bell gan nad yw'n dod o dan y rheoliadau. Bydd y daleb hefyd yn talu am gost y prawf. Ni all defnyddiwr ofyn am daleb os yw eisoes wedi derbyn un o fewn dwy flynedd.
Os yw’r uchod yn berthnasol, yna mae’n rhaid i’r Rheolwr e-bostio Cyswllt AD i gadarnhau cymeradwyaeth ar gyfer prawf llygaid a hefyd darparu Rhif Cyflogres y cyflogai a chod cyllideb, a bydd taleb yn cael ei e-bostio at y gweithiwr yn uniongyrchol gan Specsavers.
Rhaid i'r cyflogai ofyn am y tocyn cyn mynychu'r apwyntiad gan na ellir ei ddefnyddio'n ôl-weithredol.
Gyda’r daleb hon caiff y deiliad hawlio: ~ Archwiliad llygad llawn ~ £20 oddi ar sbectols sy’n costio £100 neu fwy ~ Yn ogystal â’r uchod, pan fydd angen y presgripsiwn ar y sbectol yn benodol a ddim ond ar gyfer defnydd canolradd, byddwch yn cael pâr o sbectols lensys golwg sengl o’r ystod £50 neu gyfraniad o £50 at bâr arall.
Sylwer na fydd pawb yn gymwys i gael cyfraniad o £50, nid yw’n rhoi cyfraniad am sbectols y gellid eu defnyddio ar gyfer tasgau ychwanegol yn ogystal â defnydd VDU, megis darllen neu yrru hyd yn oed os nad dyma’r defnydd a argymhellir. Dim ond sbectol ar gyfer defnydd VDU yn unig sy’n rhaid i’ch cyflogwr ei darparu. Os byddwch yn defnyddio eich sbectol bresennol ar gyfer defnydd cyffredinol yn cynnwys gwaith VDU, ni fydd gennych hawl i gyfraniad ychwanegol.