Undeb Credyd Cambrian: cynllun arbed cyflogau
Nid yw talu am achlysuron arbennig erioed wedi bod yn haws. Mae Undeb Credyd Cambrian yn cydweithio gyda dros 40 o fusnesau, sefydliadau ac awdurdodau lleol er mwyn cynnig ffordd hawdd o gynilo arian neu fenthyg mwy o arian i staff.
Gyda’r cynllun arbed cyflogau, rydych yn nodi faint o arian yr hoffech ei roi o’r neilltu yn rheolaidd, a bydd y swm hwnnw’n cael ei dalu’n uniongyrchol o’ch cyflog i’ch cyfrif cynilo Undeb Credyd Cambrian. Gallwch amrywio’r swm yr ydych yn ei roi o’r neilltu ar unrhyw adeg ac, wrth gwrs, gallwch gael mynediad at eich cynilion pan mae arnoch eu hangen.
Os oes arnoch angen benthyciad, i dalu costau annisgwyl, i gydgrynhoi dyledion, neu i dalu am welliannau i’ch cartref, mae Undeb Credyd Cambrian yn cynnig gwasanaeth ariannol cydymdeimladol. Gellir gwneud ad-daliadau drwy’r gwasanaeth arbed cyflogau, gan gynnig tawelwch meddwl ichi y bydd eich taliadau’n cael eu gwneud - ar amser. Pam ymuno â’r cynllun?
- mae’n ffordd hawdd o gynilo ar gyfer argyfyngau bychain neu am wyliau, ar gyfer y Nadolig, neu gar newydd, etc.
- mae swm bychan sy’n cael ei dynnu o’ch cyflog yn awtomatig yn troi’n gelc go dda heb ichi sylwi
- cewch yswiriant bywyd am ddim yn sgil eich cynilion
Hefyd:
- benthyciadau syml, hyblyg, fforddiadwy
- cyfradd log ostyngol ar fenthyciad sy’n cael ei dynnu o’ch cyflog
- ar gael pan mae ei angen, gyda chyfnodau ad-dalu hyblyg i’ch siwtio chi
- llog isel, dichonadwy, ac nid oes ffioedd i’w talu am ad-dalu’n gynnar
- yswiriant diogelu benthyciad am ddim
- gallwch barhau i gynilo wrth ichi ad-dalu’ch benthyciad
Ein cenhadaeth
‘Mae Undeb Credyd Cambrian yn bodoli er mwyn darparu mynediad at wasanaethau ariannol i’n cymuned, ac i gynnig dewis amgen, cyfrifol i gredyd cost-uchel’.
Ein gweledigaeth
Bydd Cymru’n lle lle na fydd pobl sydd mewn sefyllfa fregus yn ariannol yn mynd yn ysglyfaeth i fenthycwyr cost-uchel.Bydd gennym aelodaeth sy’n tyfu fydd yn rheoli’u harian eu hunain gan y byddwn ni yn ffynhonnell adnabyddus o gredyd teg ac yn lle diogel i gynilion, a byddwn yn hyrwyddo medrusrwydd ariannol.Byddwn yn adfocad uchel ei barch i’r mudiad undebau credyd yng Nghymru, ac yn wrthwynebydd diflino i gredyd cost-uchel.
Ein gwerthoedd
- Parch
- Rhagoriaeth
- Cydweithredu
- Grymuso
- Ymddiriedaeth
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Undeb Credyd Cambrian (gwefan allanol), e-bostiwch payroll@cambriancu.com neu rhowch ganiad i’r tîm ar 0333 2000 601.