Gwirfoddolwch i ni

Ymuno â dwylo

A ydych yn caru eich cymuned ac eisiau rhoi rhywbeth yn ôl? Beth am wirfoddoli?

Rydym yn cynnig profiad pleserus a grymusol i bobl frwdfrydig ac ymroddgar. Yn dibynnu ar eich swyddogaeth byddwch un ai'n gweithio'n uniongyrchol gyda'r cyhoedd neu'n cefnogi'r rhai sy'n gwneud.

Beth mae'n ei olygu i chi?

  • cyfle i gwrdd â phobl newydd
  • dysgu sgiliau newydd a gwella rhai presennol
  • gwella eich CV a rhagolygon swydd y dyfodol
  • cael synnwyr o falchder a boddhad o helpu eraill yn eich cymuned leol
  • helpu i gynnal ein gwasanaethau cymunedol

Beth ydyn ni'n ei gynnig?

  • amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddoli hyblyg a rheolaidd
  • amgylchedd croesawgar a chyflwyniad i'r gwasanaeth a'r swyddogaeth
  • hyfforddiant a chefnogaeth yn y swydd wirfoddoli

Beth yr ydym yn ei ddisgwyl gennych chi?

  • mynychu fel a gytunwyd, a gadael i ni wybod pan nad ydych yn gallu
  • cymryd rhan yn y broses ymsefydlu ac unrhyw hyfforddiant sydd ei angen ar gyfer y swydd
  • codi unrhyw bryderon am y gwaith gwirfoddoli gyda’ch cyswllt a enwyd
  • dilyn polisïau a gweithdrefnau’r gwasanaeth, gan gynnwys iechyd a diogelwch a chyfrinachedd

Cyfleoedd gwirfoddoli cyfredol

Mae'r holl waith craidd yn cael ei wneud gan staff, ond mae gwirfoddolwyr yn gwneud amrywiaeth o waith sy'n ein helpu i ychwanegu gwerth i'n cymunedau. Dyma ychydig o'r opsiynau gwirfoddoli sydd ar gael ar hyn o bryd:

  • Gwirfoddolwyr Cyfeillio / Cymunedol
  • Gwirfoddolwyr gofal
  • Gwirfoddolwyr llyfrgell
  • Gwirfoddolwyr prosiect bioamrywiaeth

Cofrestrwch eich diddordeb mewn bod yn wirfoddolwr

Tudalennau cysylltiedig

Gwirfoddoli