Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.
Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.
Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.
Cuddio
Neidio i'r prif gynnwys Recriwtio ar gyfer swyddi gweithredol English
Gweithio gyda'n gilydd er lles dyfodol Sir Ddinbych.
Swyddi gwag Swyddi gofal cymdeithasol Gweithwyr Cymdeithasol a Therapyddion Galwedigaethol Sir Ddinbych yn Gweithio
Yn sgil gwaith cynnal a chadw hanfodol, ni fydd modd chwilio a gwneud cais am swyddi ar-lein ar dydd Mercher 11 a dydd Iau 12 Rhagfyr 2024. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.
Mae Sir Ddinbych yn lle gwych i fyw a gweithio. Dysgwch fwy am ein Sir a'n gweledigaeth, ein gwerthoedd a'n hegwyddorion sy'n sail i bopeth a wnawn fel sefydliad.
Dysgwch fwy am weithio i Gyngor Sir Ddinbych.
Y broses ymgeisio a beth sy'n digwydd yn ystod ac ar ôl eich cyfweliad.
Yr hyn yr ydym ni'n ei gynnig fel cyflogwr.
Swyddi gwag yng Nghyngor Sir Ddinbych.
Dysgwch fwy am y swydd wag hon.
Dysgwch fwy am ein Llwybrau Gyrfa er mwyn eich helpu i ddatblygu eich gyrfa.
Gwybodaeth am recriwtio mewn ysgolion a swyddi gwag cyfredol.
Gwybodaeth am wirfoddoli.
Ein Gweledigaeth yw creu diwylliant 'Un Cyngor', gydag arweinyddiaeth gref ac amlwg, er mwyn sicrhau lefelau uchel o wasanaeth cwsmer i'n cymunedau.
Os ydych chi'n dymuno gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i breswylwyr Sir Ddinbych ac yn chwilio am gyflogwr gwerth chweil sy'n eich gwerthfawrogi, yna dyma'r lle i chi.
Darllenwch fwy am ein Gweledigaeth, ein Gwerthoedd a'n Hegwyddorion.
Yn Sir Ddinbych rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol, lle gall pawb fod y gorau y gallant fod. Dymunwn wneud y broses ymgeisio a recriwtio yn un gadarnhaol i bawb ac rydym yn darparu cefnogaeth ychwanegol i'r rheiny sydd ei hangen.
Rydym am i'n pobl deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, yn cael eu cynnwys, yn ddiogel, yn cael eu cefnogi ac yn cael eu croesawu, fel y gallent gyrraedd eu llawn botensial waeth beth fo'u cefndir. Os oes gennych anabledd ac angen addasiad rhesymol yn ystod y broses recriwtio, rhowch wybod i ni a byddwn yn eich cefnogi.
Dysgwch fwy am Gydraddoldeb ac Amrywiaeth yng Nghyngor Sir Ddinbych.
Rydym bob amser yn annog ein gweithwyr i ddatblygu eu sgiliau er mwyn gallu darparu'r gwasanaeth gorau i'n cymunedau a'n preswylwyr. Mae uchelgais gyrfa ein gweithwyr yn bwysig i ni. Rydym yn cynnig ystod eang o gyfleoedd dysgu a datblygu ac yn asesu anghenion datblygu ein gweithwyr yn rheolaidd trwy drafodaethau a chyfarfodydd un i un â’u rheolwyr atebol.
Dysgwch fwy am Ddysgu a Datblygu.
Mae hyrwyddo a chefnogi lles gweithwyr yn hynod bwysig i Gyngor Sir Ddinbych. Mae ein polisïau a’n haddewidion ynghylch iechyd meddwl a lles wedi’u sefydlu er mwyn codi ymwybyddiaeth, ac addysgu ein gweithlu i annog sgyrsiau agored a gonest. Rydym yn falch o fod yr Awdurdod Lleol cyntaf yng Ngogledd Cymru i gyflwyno Polisi Menopos, ac yn bwriadu parhau i ddangos esiampl, gan sicrhau bod lles gweithwyr wrth wraidd popeth a wnawn.
Rydym am i'n gweithwyr wybod lle y gallant gael gafael ar gefnogaeth ar yr adegau pan fyddant ei hangen fwyaf. Mae ein Rhaglen Cymorth i Weithwyr (Vivup) yn wasanaeth cyfrinachol, diduedd, am ddim, sy’n cynnig cyngor ar unrhyw fater 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.
Mae gennym hefyd Adran Iechyd Galwedigaethol ar y safle ac rydym yn darparu talebau gofal llygaid.
Darllenwch fwy am ein hymroddiad i iechyd meddwl a lles gweithwyr.
Cyngor Sir Ddinbych ar Glassdoor.
Cyngor Sir Ddinbych ar LinkedIn.
Swyddi Cyngor Sir Ddinbych ar Facebook.
Browser does not support script.