Y daith recriwtio

Mae gan bawb sy’n gweithio yng Nghyngor Sir Ddinbych rôl i’w chwarae er mwyn sicrhau bod Sir Ddinbych y gorau y gall fod - felly rydym am roi’r cyfle i bawb fod ar eu gorau yn ystod ein proses recriwtio.

Services and information

Y broses ymgeisio

Gwybodaeth am y broses ymgeisio.

Y cyfweliad

Gwybodaeth am y cyfweliad.

Ar ôl y cyfweliad

Gwybodaeth am yr hyn y gallech chi ei ddisgwyl ar ôl eich cyfweliad.

Hygyrchedd

Yn Sir Ddinbych rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol lle gall pawb fod ar eu gorau. Rydym am wneud y broses ymgeisio a recriwtio yn un gadarnhaol i bawb ac rydym yn darparu cymorth ychwanegol i'r rhai a all fod ei angen.

Rydym am i’n pobl deimlo’n ddiogel, eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cynnwys, yn cael eu cefnogi ac yn cael eu croesawu fel y gallant gyrraedd eu llawn botensial ni waeth beth fo’u cefndir. Os oes gennych anabledd a bod angen addasiad rhesymol arnoch yn ystod y broses recriwtio, rhowch wybod i ni ac fe wnawn ni eich cefnogi.

Dysgwch fwy am Gydraddoldeb ac Amrywiaeth yng Nghyngor Sir Ddinbych.

Hygyrchedd

Gwiriadau hawl i weithio

Mae'n ofynnol i bob cyflogwr gynnal gwiriadau, yn bennaf fel gofyniad cyfreithiol, ond mae angen gwiriadau ychwanegol ar gyfer rhai o'n rolau oherwydd y cwsmeriaid rydym yn gweithio gyda nhw.

Pa gamau gwirio cyn cyflogi sydd eu hangen?

Mae'n ofyniad cyfreithiol ein bod yn sicrhau bod gan unrhyw un rydym yn ei gyflogi hawl gyfreithiol i weithio yn y DU. Byddwn yn gofyn i chi am dystiolaeth o'ch cymhwysedd os cynigir rôl i chi ac yn gwirio'r dogfennau a ddarperir gennych i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â'r gyfraith.

Mwy o wybodaeth am ba ddogfennau y bydd eu hangen arnoch (gwefan GOV.UK).

Dogfennau

Cyngor ac awgrymiadau

Rydym am i bawb gael profiad da wrth ymgeisio am yrfa gyda Chyngor Sir Ddinbych. Hyd yn oed os nad ydych yn llwyddiannus, rydym yn gobeithio y byddwch yn dal i allu dysgu ac elwa o bethau cadarnhaol o'r broses. Os hoffech rannu unrhyw adborth cadarnhaol neu os teimlwch ar unrhyw adeg na ddilynwyd gweithdrefnau cywir y broses, cysylltwch â ni yn cyswlltad@sirddinbych.gov.uk.

Gall gwneud cais a chyfweld am swydd newydd fod yn frawychus, byddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau ei fod yn rhwydd ac edrychwn ymlaen at ddod i'ch adnabod.

Papur nodiadau a phen

Sir Ddinbych yn Gweithio

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn wasanaeth cyflogadwyedd sydd â'r nod o gefnogi trigolion Sir Ddinbych 16 oed a hŷn, a'r rhai sydd mewn tlodi neu mewn risg o dlodi. Mae'n cynnig cymorth gydag ystod o rwystrau gwahanol i'r rhai sy'n chwilio am waith, gan gynnwys:

  • Llenwi ffurflenni cais
  • Sgiliau a thechnegau cyfweliad
  • Datblygu sgiliau TG sylfaenol
  • Hyfforddiant a chymwysterau pellach

Dysgwch fwy am Sir Ddinbych yn Gweithio, eu gwasanaethau, a'r prosiectau y maent yn eu cydlynu.

Sir Ddinbych yn Gweithio