Beth ydi gwirfoddoli?

Gwirfoddoli ydi gweithgaredd di-dâl lle mae rhywun yn rhoi eu hamser i gynorthwyo sefydliad neu unigolyn nad ydynt yn perthyn iddynt. Nid yw gwirfoddolwyr yn staff cyflogedig ac nid oes ganddynt berthynas dan gontract sydd wedi’i rwymo mewn cyfraith gyda'r Cyngor.

Gall unrhyw un dros 16 oed wirfoddoli gyda’r Cyngor. Gall bod yn werth chweil a gall gynnwys ystod eang o dasgau megis:

  • cael paned o de gyda rhywun sy'n teimlo'n ynysig
  • garddio neu weithio y tu allan yn amddiffyn ac yn diogelu'r amgylchedd lleol
  • helpu'r tîm archifau i sicrhau bod ein hanes yn cael ei gadw a'i fod yn hygyrch i bobl eraill
  • cefnogi mewn digwyddiadau chwaraeon neu theatr lleol
  • helpu plant i ddysgu darllen yn yr ysgol

Mae gwirfoddolwyr wedi chwarae rhan bwysig i ddarparu gwasanaethau'r Cyngor am nifer o flynyddoedd ac fe'i gwerthfawrogir yn fawr. Erbyn heddiw, mae gwirfoddolwyr yn llenwi amrywiaeth o rolau ar draws Sir Ddinbych.

Yn aml, gwirfoddolwyr yw’r glud sydd yn dal cymuned ynghyd, mae’n galluogi i chi gysylltu â’ch cymuned a’i wneud yn lle gwell. Serch hynny, mae gwirfoddoli yn gweithio’r ddwy ffordd, gan y gallwch chi elwa cyn gymaint â'r achos rydych chi'n dewis ei helpu. Mae gwirfoddoli yn eich helpu i gyfarfod pobl newydd, mae'n darparu ymdeimlad o gyflawniad a phwrpas, a gall roi hwb i'ch sgiliau cymdeithasol.

Rydym eisiau sicrhau bod pob cyfle i wirfoddoli yn y Cyngor yn hygyrch i bawb.

Cofrestrwch eich diddordeb mewn bod yn wirfoddolwr