Cyfnodau prawf ar gyfer rheolwyr recriwtio

Mae pob gweithiwr newydd yn ddarostyngedig i gyfnod prawf 6 mis cyn y caiff eu penodiad ei gadarnhau. Gellir dod â’r cyfnod prawf i ben yn gynharach neu ei ymestyn yn dilyn trafodaeth gyda'r rheolwr a'r gweithiwr.

Bydd gweithwyr ar gyfnod prawf yn cael eu hasesu gan eu rheolwr wedi iddynt fod yn gwasanaethu am 3 mis a 5 mis. Os ydynt yn llwyddiannus ar y cyfnod 6 mis (neu ar ôl dyddiad diwedd y cyfnod estynedig) bydd y gweithiwr yn mynychu cyfarfod terfynol ac yn cael hysbysiad ffurfiol eu bod wedi cwblhau eu cyfnod prawf.

Cyfarfod adolygu cyfnod prawf cyntaf ar ôl 3 mis

Pwrpas y cyfarfod adolygu tri mis yw trafod perfformiad y gweithiwr yn unol â chynnwys y Cam Asesu Cyfnod Prawf 3 mis.

Polisi a gweithdrefn cyfnod prawf (PDF, 1.63MB)

Dylai’r gweithiwr a’r rheolwr drafod perfformiad y gweithiwr mewn perthynas â chynnwys y Ffurflen Asesu Cyfnod Prawf 3 mis a chofnodi'r canlyniad yn briodol ar y ffurflen honno.

Ail gyfarfod adolygu cyfnod prawf ar ôl 5 mis

Pwrpas yr ail gyfarfod adolygu cyfnod prawf yw adolygu perfformiad, ymddygiad, cadw amser, absenoldeb salwch a phresenoldeb, a dylid rhoi adborth adeiladol, yn pwysleisio llwyddiannau ac unrhyw feysydd sydd angen gwelliant. Rhaid darparu enghreifftiau bob amser.

Cyfarfod terfynol adolygu cyfnod prawf ar ôl 6 mis (neu ar ddiwedd y cyfnod prawf estynedig)

Mae'r canlyniadau posibl ar ddiwedd y cyfarfod adolygu cyfnod prawf 6 mis (neu ar ddiwedd y cyfnod estynedig) fel a ganlyn:

Cadarnhau bod y cyfnod prawf wedi’i gwblhau'n llwyddiannus

Ar ddiwedd y cyfnod prawf chwe mis (neu'r cyfnod estynedig), mae’n bwysig fod y rheolwr yn cadarnhau bod y gweithiwr wedi cwblhau’r cyfnod prawf yn llwyddiannus yn y cyfarfod hwn ac yn cadarnhau hyn trwy lythyr. Rhaid anfon copi at AD. Ni ddylid anwybyddu hyn ar y dybiaeth fod gweithwyr newydd yn gwybod eu bod wedi cwrdd â'r safon ofynnol gan nad oes unrhyw gamau gweithredu wedi eu cymryd yn eu herbyn.

neu

Ymestyn y cyfnod prawf

Os oedd yr adolygiad cyfnod prawf 5 mis yn foddhaol a bod bellach bryderon, neu lle'r oedd yna bryderon ar y cam 3 a/neu 5 mis a bod y rheolwr yn dymuno ymestyn unwaith eto, dylai’r rheolwr ysgrifennu at y gweithiwr yn ei wahodd/ gwahodd i gyfarfod.

Dylai’r llythyr nodi yn eglur pa rai yw’r meysydd y mae’r rheolwr yn dymuno eu trafod a nodi unrhyw faterion penodol y gallai fod gan y rheolwr.

Cysylltu â ni

Dogfennau cysylltiedig

Ffurflen gadawyr (MS Word, 743KB)