Gwybodaeth am Sir Ddinbych yn Gweithio

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Logo Sir Ddinbych yn Gweithio

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn wasanaeth cyflogadwyedd sydd gyda’r nod o gefnogi preswylwyr Sir Ddinbych, 16 oed a hŷn, sydd mewn tlodi neu mewn risg o dlodi.

Rydym yn cynnig cefnogaeth ar gyfer nifer o wahanol rwystrau y byddech o bosib yn ei wynebu, fel:

  • Cymorth i ddod o hyd i swydd
  • Cefnogaeth i ddod o hyd i waith neu leoliad gwirfoddol
  • Hyfforddiant a chymwysterau pellach
  • Magu hyder a chefnogaeth i’ch ysgogi
  • Creu neu wella CV
  • Sgiliau a thechnegau cyfweliad
  • Llenwi ffurflenni cais
  • Datblygu sgiliau TG sylfaenol
  • Eich cynorthwyo i ddeall eich hawl i gael budd-daliadau
  • Cymorth gyda chyllid ar gyfer offer, dillad cyfweliad a thystysgrifau
  • Ariannu costau teithio i gyfweliadau, lleoliadau gwaith a hyfforddiant

Beth am gofrestru heddiw? Bydd mentor yn cael ei neilltuo i chi, fydd yn eich cefnogi i gyrraedd eich nodau.

Cysylltwch â ni: Sir Ddinbych yn Gweithio

Logo Cymunedau am Waith a Mwy

Logo Wedi'i Yrru Gan Ffyniant Bro