Trechu tlodi drwy gyflogaeth

Ein gweledigaeth yw lleihau tlodi drwy alluogi unigolion i gael gafael ar rwydwaith o wasanaethau sy'n eu cefnogi ar eu taith tuag at gyflogaeth, ac i gadw eu swyddi a datblygu unwaith y maent mewn gwaith.

Rydym wedi ymrwymo i hwyluso dull newydd o ddatblygu a chreu cymunedau cryf ar draws yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, gyda ffocws mwy llym ar drechu tlodi drwy gydlynu cefnogaeth sy’n helpu pobl i gael gwaith, yn cael gwared ar rwystrau i gael gwaith ac yn rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant.  Byddwn yn cyflawni hyn drwy ddatblygu, gweithredu a mesur strategaeth gyflogaeth drosfwaol ledled Sir Ddinbych (Sir Ddinbych yn Gweithio) gyda’r Awdurdod Lleol fel ‘sefydliad ambarél’.

Y nod yw sicrhau bod y gwaith yn gydnaws ag ymagwedd a gweledigaeth strategol drosfwaol ar gyfer datblygu a chreu cymunedau cryf yn Sir Ddinbych gyda ffocws llym ar drechu tlodi drwy gyflogaeth gynaliadwy.

Os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod yn dioddef o dlodi neu mewn perygl o ddioddef tlodi, ac yr hoffech chi gael cymorth i gael gwaith neu ddatblygu yn eich swydd, ewch i’n tudalen ar y we ar Gymorth i gael gwaith a datblygu yn eich swydd, i weld sut y gallwn ni eich helpu chi.

Fframwaith Cyflogaeth Sir Ddinbych yn Gweithio

Datblygwyd Fframwaith Cyflogaeth Sir Ddinbych yn Gweithio i hwyluso integreiddiad a chysondeb effeithiol y rhaglenni a’r ddarpariaeth trechu tlodi a chyflogadwyedd, er mwyn creu gwasanaethau mwy ymatebol drwy hyrwyddo mwy o gydweithio ac arolygaeth o ran cyllidebau, cynlluniau a gwaith lleol sy’n digwydd ar hyn o bryd yn y sir dan agenda Trechu Tlodi. 

Nod ymagwedd rhaglen gyfan Sir Ddinbych yn Gweithio, gydag ymyriadau strategol a chamau cydgysylltiedig, yw gwneud y mwyaf o arloesedd a hwyluso gweledigaeth a chynlluniau o ansawdd uchel ar gyfer ymagwedd integredig ddi-dor a newid gweddnewidiol i ddarpariaeth gwasanaethau lleol a gwerth am arian, drwy arbedion effeithlonrwydd yn y dyfodol yn unol â Blaenoriaethau Corfforaethol newydd Sir Ddinbych, polisïau’r Cyngor a’i nodau, amcanion a blaenoriaethau strategol, gan gydymffurfio ar yr un pryd â deddfwriaeth, arweiniad a thelerau ac amodau perthnasol sy'n ofynnol gan gyrff ariannu eraill, e.e. Cronfa Gymdeithasol Ewrop, Llywodraeth Cymru ac ati.  Y canlyniad dymunol yw darparu eglurder a gweledigaeth mewn perthynas â’r effeithiau a rennir ac amlinellu’r bwriadau strategol i arolygu darpariaeth cefnogaeth i gael hyfforddiant a gwaith, gan ganolbwyntio ar helpu dinasyddion Sir Ddinbych i fod yn economaidd weithgar, gwella eu haddysg a’u sgiliau a chynyddu eu cadernid a’u lles personol i’r eithaf, waeth ble maen nhw’n byw, beth yw eu grŵp oedran na pha mor addas ydyn nhw yn erbyn y meini prawf cymhwyso amrywiol sydd mewn grym o ganlyniad i wahanol reoliadau ffrydiau cyllido. 

Bydd sicrhau bod canfod cymorth a chefnogaeth mor hawdd a syml ag sy'n bosib yn elfen allweddol, gan gydnabod nad yw pawb yn meddwl am waith nac yn barod am swydd ac/neu fod ganddynt ormod o rwystrau o’u blaenau. Gellir cyflawni hyn drwy ddatblygu fframwaith Cyflogaeth ‘Sir Ddinbych yn Gweithio’, o ymgysylltu a chynhwysiant drwy ‘Bwynt Cyswllt Sengl’ i wybodaeth a chefnogaeth, hyfforddiant ac addysg, gan arwain at weithgareddau sy’n ymwneud â mynd ati i chwilio am waith a chefnogaeth mewn swydd.  Darperir cymorth mewn lleoliadau cymunedol allweddol fel llyfrgelloedd ledled Sir Ddinbych.

Fframwaith Cyflogaeth Sir Ddinbych yn Gweithio (PDF, 2.42MB)

Pwynt Cyswllt Sengl

Bydd y broses ymgysylltu, ymholi ac atgyfeirio’n cael ei symleiddio drwy Bwynt Cyswllt Sengl, gan sicrhau bod cymorth ar gael i drigolion, waeth beth fo’u hamgylchiadau, cyn belled ag yr ystyrir eu bod mewn tlodi neu mewn perygl o dlodi.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn hwyluso mynediad mwy syml a di-dor i’r gefnogaeth cyflogadwyedd sydd ar gael ledled Sir Ddinbych ar gyfer y cyhoedd, cyflogwyr a darparwyr gwasanaethau fel ei gilydd. 

Y nod yw y bydd pob ymholiad newydd yn dod trwy ein ffurflen ar-lein ar gyfer cymorth i gael gwaith neu gael gwell swydd, neu drwy un rhif ffôn, neu y bydd pobl yn gwneud ymholiadau yn eu llyfrgell leol. 

Y nod yw y bydd pob ymholiad newydd yn dod trwy ein ffurflen ar-lein ar gyfer cymorth i gael gwaith a datblygu mewn swydd.

Yna bydd ymholiadau’n cael eu trafod mewn cyfarfod Pwynt Cyswllt Sengl a bydd y cymorth mwyaf addas yn cael ei bennu ar eu cyfer er mwyn iddynt gael y cymorth cywir ar yr adeg gywir ac osgoi 'disgyn rhwng y bylchau'.  Ein nod yw integreiddio’r Pwynt Cyswllt Sengl yn llawn ar draws timau yn y gymuned, yn fewnol ac yn allanol i ni, er mwyn symleiddio’r broses o ymgysylltu ac atgyfeirio a sicrhau bod cefnogaeth ar gael i bawb sydd mewn tlodi neu mewn perygl o dlodi yn Sir Ddinbych.  Os ydych chi’n darparu cefnogaeth cyflogadwyedd, bydd Pwynt Cyswllt Sengl yn cynnig cyfle i chi gael mwy o atgyfeiriadau i'ch prosiect, felly da chi, cysylltwch â ni i gael gwybod mwy.

Rhwydwaith Cyflogaeth Sir Ddinbych yn Gweithio

Rydym yn cydweithio â’n partneriaid i ddatblygu un pwynt mynediad cadarn er mwyn adnabod, hyrwyddo a chydlynu mentrau/cyfleoedd am sgiliau/cyflogadwyedd ar gyfer trigolion Sir Ddinbych, yn unol â gweledigaeth strategol Sir Ddinbych yn Gweithio. Cysylltwch â ni os hoffech chi fod yn aelod o'r Rhwydwaith hwn.

Cyllid

Wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ddinbych.

Logo Cronfa Gymdeithasol Ewrop

Mwy o Wybodaeth

Cysylltwch â ni os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am Sir Ddinbych yn Gweithio.