Sir Ddinbych yn Gweithio: Clybiau Swyddi

Mae Clybiau Swyddi yn darparu cefnogaeth un i un i’ch helpu i oresgyn heriau a symud i mewn i fyd gwaith. Mae ein staff ar gael i’ch cynorthwyo gydag anghenion lles a chynnig cymorth gyda:

  • CVs
  • datganiadau personol
  • hyfforddiant ar-lein
  • chwilio am swydd
  • ceisiadau

Cewch y canllawiau sydd eu hangen arnoch i gymryd y cam nesaf.

Pobl sy'n gwneud ymchwil gyda'i gilydd mewn llyfrgell

Pwy sy’n cael dod?

Mae Clybiau Swyddi ar gyfer unrhyw un sydd dros 16 mlwydd oed, sy’n byw yn Sir Ddinbych, ac nid mewn addysg neu gyflogaeth.

Pryd a lle fydd y sesiynau’n cael eu cynnal?

Cynhelir Clybiau Swyddi yn:

  • Llyfrgell Corwen dydd Llun cyntaf o bob mis, 2pm tan 4pm
  • Hwb Dinbych (gwefan allanol) o 10am tan 12 hanner dydd ar:
    • Dydd Iau 16 Ebrill 2026
    • Dydd Iau 30 Ebrill 2026
    • Dydd Iau 14 Mai 2026
    • Dydd Iau 28 Mai 2026
    • Dydd Iau 11 Mehefin 2026
    • Dydd Iau 25 Mehefin 2026
  • Llyfrgell Prestatyn bob Dydd Gwener, o 10am tan 12 hanner dydd
  • Llyfrgell y Rhyl:
    • bob Dydd Mawrth, o 2pm tan 4pm
    • bob Dydd Iau, o 10am tan 12 noon
  • Llyfrgell Rhuthun, o 1pm tan 3pm ar:
    • Dydd Iau 2 Ebrill 2026
    • Dydd Iau 16 Ebrill 2026
    • Dydd Iau 30 Ebrill 2026
    • Dydd Iau 7 Mai 2026
    • Dydd Iau 21 Mai 2026
    • Dydd Iau 4 Mehefin 2026
    • Dydd Iau 18 Mehefin 2026

Sut i gymryd rhan

Gall unrhyw un sydd allan o waith neu addysg, dros 16 oed ac sy'n byw yn Sir Ddinbych ddod i unrhyw un o'n sesiynau - nid oes angen apwyntiad, sesiynau yn hollol rad ac am ddim ac nid oes cyfyngiad ar faint o sesiynau y gallwch eu mynychu.

Beth i'w ddod gyda chi

Byddai’n ddefnyddiol petaech yn dod â:

  • phrawf adnabod - os nad oes gennych brawf adnabod, a hoffech wneud cais am un, gallwch alw heibio, a byddwn yn eich helpu gyda’ch anghenion.
  • eich CV
  • unrhyw waith papur sy’n berthnasol i’ch anghenion

Cysylltu â ni

  • Cysylltu â ni ar-lein - Cysylltwch â ni ar-lein a gofynnwch am alwad yn ôl os hoffech i ni eich ffonio chi
  • Ffoniwch ni - 01745 331438

Dilynwch ni

working-denbighshire-funded-by-uk-government-logo  Logo Cysylltu â Gwaith, Ariennir gan Lywodraeth y DU working-denbighshire-welsh-government-logo Logo Cymunedau am Waith a Mwy  Logo Sir Ddinbych yn Gweithio