Sir Ddinbych yn Gweithio: Teithiau Cerdded Lles
Ydych chi’n edrych am ffordd o deimlo’n well, cwrdd â phobl newydd a chrwydro’r awyr agored? Ymunwch â’n Teithiau Cerdded Lles wythnosol am ddim, mewn partneriaeth â Barod a Ramblers Cymru, ar gyfer ffordd hamddenol a chyfeillgar o:
- fwynhau natur
- gwella eich lles meddyliol a chorfforol
- datblygu sgiliau newydd ar hyd y ffordd

Beth i’w ddisgwyl
Gyda’n Teithiau Cerdded Lles, gallwch ddisgwyl:
- teithiau cerdded lleol cyfeillgar i ddechrau - yna ein helpu i gynllunio anturiaethau mwy
- dysgu sgiliau awyr agored megis llywio, gyda’r cyfle i ennill tystysgrifau
- cefnogaeth ac arweiniad gan arbenigwyr yn Ramblers Cymru
- gwobrau am fynychu’n rheolaidd
- lle braf, croesawgar i gwrdd ag eraill - dewch â ffrind os dymunwch!
- yr holl fanteision lles o fod allan mewn natur
Rydym yn cerdded ym mhob tywydd - felly gwisgwch yn addas a dewch ar y siwrnai
Pwy sy’n cael dod?
Mae ein Teithiau Cerdded Lles ar agor i drigolion Sir Ddinbych o bob lefel ffitrwydd, 18 i 25 oed, os ydych yn chwilio am swydd neu’n chwilfrydig ynglŷn â beth sydd ar gael.
Pryd a ble mae teithiau cerdded lles yn digwydd?
Mae Teithiau Cerdded Lles yn digwydd bob dydd Iau am 3:30pm, ac yn cychwyn o lyfrgell y Rhyl.
Darganfod sut i gyrraedd llyfrgell y Rhyl.
Sut i gymryd rhan
Gall unrhyw un gymryd rhan, nid oes angen apwyntiad, mae’r Teithiau Cerdded Lles yn hollol am ddim.
Cysylltu â ni
- Cysylltu â ni ar-lein - Cysylltwch â ni ar-lein a gofynnwch am alwad yn ôl os hoffech i ni eich ffonio chi.
- Ffoniwch ni - 01745 331438 / 07342 070635.
Dilynwch ni