Talu rhent tai cymdeithasol
Fe gewch chi dalu’r rhent mewn sawl ffordd.
Debyd Uniongyrchol
Os oes gennych chi gyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu, dyma’r ffordd hawsaf o dalu. Bydd eich rhent yn cael ei dalu o’ch cyfrif chi yn awtomatig bob mis.
Os hoffech chi drefnu debyd uniongyrchol, cysylltwch â ni i gael ffurflen mandad debyd uniongyrchol.
Talu ar-lein
Talu eich rhent ar-lein
Fe fedrwch chi ddefnyddio eich cerdyn debyd neu eich cerdyn credyd i dalu eich rhent ar-lein.
Cerdyn rhent
Rhoir cerdyn plastig ar gyfer talu’r rhent i bob tenant y cyngor, ac fe gewch chi ddefnyddio’r cerdyn hwn i dalu eich rhent yn unrhyw un o’n Siopau Un Alwad. Nid oes taliad isafswm os ydych chi’n defnyddio eich cerdyn mewn Siop Un Alwad.
Fe gewch chi ddefnyddio’r cerdyn hwn i dalu eich rhent mewn swyddfa bost. Os ydych chi’n talu mewn swyddfa bost mae’n rhaid i chi ddefnyddio arian parod, a rhaid gwneud taliad isafswm o £5.
Os ydych chi’n colli eich cerdyn plastig a bod arnoch chi angen un newydd, ffoniwch ni ar 01824 712965 neu 01824 712963.
Talu dros y ffôn
Fe gewch chi ddefnyddio eich cerdyn debyd neu eich cerdyn credyd i dalu dros y ffôn. Pan fyddwch chi’n ein ffonio ni bydd angen i chi fod â’ch cyfeirnod rhent neu eich cerdyn plastig ar gyfer talu’r rhent, ac fe wnawn ni ofyn am eich enw a’ch cyfeiriad chi hefyd.
- lein dalu awtomataidd 24 awr ar 0300 4562 499
- 01824 712963 / 01824 712965 (o ddydd Llun i ddydd Iau: 9am i 5pm. Dydd Gwener: 9am i 4:30pm)
Talu trwy’r post
Fe gewch chi dalu eich rhent trwy anfon siec neu archeb bost yn daladwy i Gyngor Sir Ddinbych i:
Siop Un Alwad Y Rhyl
Stryd yr Eglwys
Y Rhyl
LL18 3AA
Gofynnir yn garedig i chi nodi eich cyfeirnod rhent, a’ch enw a’ch cyfeiriad gyda’r taliad, os gwelwch yn dda. Dim ond os ydych chi wedi gofyn am dderbynneb y byddwn ni’n anfon un atoch chi.
Problemau talu’r rhent?
Os ydych chi’n cael anhawster talu eich rhent, efallai y bydd gennych chi’r hawl i fudd-dal tai. Os hoffech chi drafod sut medrwn ni eich helpu chi, cysylltwch â ni ar-lein neu ffoniwch ni ar 01824 712965 neu 01824 712693.