Biliau treth y cyngor a hysbysiadau budd-dal ar-lein
Bydd gennych y dewis o dderbyn eich biliau treth y cyngor neu hysbysiadau budd-dal ar-lein os yw eich cyfeiriad e-bost a’ch rhif ffôn symudol cyfredol gennym.
Beth fydd yn digwydd
Os yw eich cyfeiriad e-bost neu rhif ffôn symudol cyfredol gennym, byddwn yn anfon neges destun neu e-bost atoch gyda dolen i’ch bil Treth y Cyngor neu hysbysiad budd-dal.
Gallwch un ai:
- agor y ddolen a rhoi eich cod post mewn llythrennau bras gyda bwlch (e.e. LL15 1YN) i weld eich bil yn ddiogel
- anwybyddu’r neges a bydd copi papur yn cael ei anfon yn awtomatig i’ch cyfeiriad cyn pen 48 awr
Pan fyddwch wedi edrych ar eich hysbysiad ar-lein, ni fyddwn yn ei anfon drwy’r post.
Ychwanegu, gwirio neu roi’ch manylion diweddaraf
Gallwn anfon biliau neu hysbysiadau i chi y ffordd yma os yw eich cyfeiriad e-bost a’ch rhif ffôn symudol cyfredol gennym yn unig. Os ydych eisiau ychwanegu, gwirio neu roi eich manylion cyswllt diweddaraf, cysylltwch ag adran treth y cyngor neu’r adran fudd-daliadau.
Derbyn bil neu hysbysiad drwy’r post
Gellwch dderbyn bil neu hysbysiad drwy’r post os yw’n well gennych. Os ydych yn dewis peidio ag agor eich bil nei hysbysiad ar-lein o fewn 48 awr, byddwn yn anfon eich bil treth y cyngor neu hysbysiad fudd-dal drwy’r post.
Manteision biliau a hysbysiadau ar-lein
Bydd derbyn eich biliau a hysbysiadau ar-lein yn golygu eich bod yn derbyn eich biliau yn fwy prydlon ac yn effeithlon, yn ogystal â lleihau costau postio.
Bydd hefyd yn gymorth tuag at gyflawni ein nod o fod yn gyngor di-garbon net ac ecolegol gadarnhaol erbyn 2030.