Mae trwydded bersonol yn galluogi person penodol i gyflenwi alcohol neu i ganiatáu cyflenwi alcohol mewn eiddo sydd â thrwydded eiddo ddilys.
Mae angen trwydded bersonol i oruchwylio gwerthiant alcohol mewn unrhyw eiddo â thrwydded gan gynnwys tafarndai, siopau trwyddedig, tai bwyta a gwestai. Mae ‘eiddo trwyddedig’ yn cynnwys pob eiddo sy’n cael gwerthu alcohol dan drwydded eiddo. Does dim angen trwydded bersonol arnoch chi i werthu alcohol dan rybudd digwyddiad dros dro.
Nid yw trwyddedau personol ynghlwm wrth eiddo penodol. Mae hyn yn golygu y caiff dalwyr trwyddedau personol awdurdodi gwerthu alcohol mewn unrhyw eiddo trwyddedig yng Nghymru a Lloegr.
Sut ydw i’n gwneud cais am y drwydded hon?
Mae’n rhaid i chi wneud cais i awdurdod trwyddedu yr ardal lle rydych chi’n byw ac nid i awdurdod trwyddedu yr ardal lle rydych chi’n gweithio.
Cyn ymgeisio am drwydded bersonol mae’n rhaid i chi fynychu cwrs i ennill cymhwyster trwyddedu cydnabyddedig i sicrhau eich bod yn ymwybodol o’r gyfraith drwyddedu a’r cyfrifoldeb cymdeithasol ehangach sydd ynghlwm wrth werthu alcohol.
Darparwyr cymwysterau trwydded bersonol achrededig (PDF, 66KB)
Ewch i gov.uk i lawrlwytho’r ffurflen gais (gwefan allanol). Dychwelwch eich ffurflen gais i ni, ynghyd â:
Ffurflen ffotograffau ar gyfer cais trwydded bersonol (PDF, 40KB)
Anfonwch eich ffurflen gais, y dogfennau ategol a’r ffi ymgeisio i’r:
Trwyddedu
Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwalad
Caledfryn
Ffordd y Ffair
Dinbych
Sir Ddinbych
LL16 3RJ
Nid oes modd i chi ymgeisio ar-lein oherwydd bod arnom ni angen dogfennau gwreiddiol.
Os oes gennych chi drwydded bersonol a bod eich manylion wedi newid (e.e. newid eich enw, cyfeiriad, euogfarnau), mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni yn ysgrifenedig. Codir £10.50 arnoch chi i newid eich manylion personol.
Am ba hyd y mae'r drwydded yn ddilys?
Nid yw trwyddedau personol, unwaith y cânt eu caniatáu, yn dod i ben, oni chânt eu dirymu.
Faint mae’n costio?
Mae gwneud cais am drwydded bersonol yn costio £37.
Sut y gallaf dalu?
Gellir talu â cherdyn dros y ffôn i wasanaethau cwsmeriaid (01824 706000). Mae taliad gyda siec neu arian parod ar gael yn un o Siopau Un Alwad Sir Ddinbych yn unig. Cysylltwch â ni i gael y cyfeirnod priodol cyn ceisio talu. Gall methu â darparu’r cyfeirnod priodol achosi oedi gyda’ch cais
Mwy wybodaeth
Rydym yn argymell eich bod yn darllen drwy ein Polisi Datganiad Trwyddedu.
Polisi Datganiad Trwyddedu (PDF, 796KB)