Masnachu ar y stryd: Tafarndai, faniau bwyd a gwerthwyr bwyd dros dro
Gallai fod angen caniatâd masnachu ar y stryd i werthu bwyd a diod o feysydd parcio tafarndai, faniau bwyd, safleoedd bwyd dros dro a thir preifat arall y gall y cyhoedd ei ddefnyddio.
Gall fod angen caniatâd pan fo:
- tafarndai a lleoliadau yn cynnal masnachwyr ar eu tir
- bwyd yn cael ei werthu o faniau, trelars neu stondinau dros dro
- gwerthwyr bwyd stryd yn gweithredu o dir y mae’r cyhoedd yn gallu ei ddefnyddio
- digwyddiadau yn cynnwys stondinau bwyd neu ddiod
Pryd mae angen caniatâd ar gyfer masnachu ar y stryd
Mae angen caniatâd i fasnachu ar y stryd fel arfer pan fydd gwerthu yn digwydd:
- ar strydoedd a mannau cyhoeddus
- mewn meysydd parcio a chyrtiau blaen tafarndai
- meysydd parcio archfarchnadoedd a pharciau manwerthu
- tir sy'n eiddo preifat y gall y cyhoedd ei ddefnyddio
Ardaloedd lle nad yw masnachu ar y stryd yn cael ei ganiatáu
Mae masnachu ar y stryd wedi’i wahardd mewn rhai ardaloedd yn Sir Ddinbych.
Gweld strydoedd lle mae masnachu wedi’i wahardd
Lluniaeth Hwyr y Nos
Er mwyn gwerthu bwyd poeth neu ddiod boeth yn gyfreithlon rhwng 11pm a 5am, mae’n rhaid bod gennych chi un o'r canlynol, yn ogystal â chaniatâd masnachu ar y stryd:
Mae'r gofyniad hwn yn berthnasol i bob masnachwr stryd, gan gynnwys faniau symudol a stondinau, os caiff y bwyd neu'r ddiod eu cynhesu ar y safle neu eu gwerthu’n boeth i'w bwyta neu eu hyfed yn rhywle arall. Nid oes angen y trwyddedau ychwanegol hyn ar gyfer bwyd oer a diodydd oer di-alcohol.
Dirwyon a chosbau
Gellir cymryd camau gorfodi os bydd rhywun yn:
- masnachu heb ganiatâd i fasnachu ar y stryd neu’r drwydded ofynnol
- masnachu ar stryd ble mae masnachu wedi’i wahardd
- peidio â chadw at amodau eu caniatâd masnachu ar y stryd
Gall camau gorfodi gynnwys:
- atal neu dynnu’r caniatâd i fasnachu ar y stryd neu’r drwydded ofynnol yn ôl
- dirwyon hyd at £1,000