Mae ar unigolion a busnesau angen trwydded eiddo i werthu alcohol, i werthu bwyd poeth a diod rhwng 11pm a 5am, ac i ddarparu adloniant wedi ei reoleiddio. Mae hyn yn cynnwys:
Mi fydd angen trwydded arnoch chi hyd yn oes os ydi’r digwyddiad er budd elusen.
Os ydych chi’n rhedeg clwb preifat fe allwch chi ymgeisio am dystysgrif adeilad clwb yn lle trwydded eiddo.
Os ydych chi’n adeiladu neu’n addasu eiddo ac yn bwriadu ei wneud yn eiddo trwyddedig, fe allwch chi wneud cais am ddatganiad dros dro.
Rydym yn argymell eich bod yn darllen drwy ein Polisi Datganiad Trwyddedu
Polisi Datganiad Trwyddedu (PDF, 796KB)
Sut ydw i’n gwneud cais am y drwydded hon?
Os ydych chi’n bwriadu gwneud cais am drwydded eiddo i werthu a chyflenwi alcohol, yna bydd arnoch chi hefyd angen:
- trwydded bersonol i awdurdodi cyflenwi alcohol yn unol â’ch trwydded eiddo
- enwebu goruchwylydd eiddo ar eich ffurflen gais am drwydded eiddo. Mae’n rhaid i’r person hefyd fod â thrwydded bersonol.
Y ffordd hawsaf a chyflymaf i ymgeisio am drwydded eiddo ydi ar-lein.
Ymgeisio am drwydded eiddo ar-lein (gwefan allanol)
Os ydi o’n well gennych fe allwch chi lenwi copi papur o’r ffurflen gais – fe allwch chi lawrlwytho copi o wefan gov.uk (gwefan allanol).
Bydd yn rhaid i chi hefyd gynnwys cynllun o’r eiddo a chopi o ffurflen ganiatâd (gwefan allanol) y goruchwylydd eiddo rydych chi wedi ei enwebu.
Pan rydych chi’n ymgeisio am drwydded eiddo bydd gofyn i chi anfon copi cyflawn o’ch cais i’r Awdurdodau Cyfrifol. Asiantaethau ydi’r rhain sydd â phwerau penodol dan y Ddeddf Drwyddedu i hyrwyddo'r pedwar amcan trwyddedu:
- Atal trosedd ac anhrefn
- Diogelu plant rhag niwed
- Diogelwch y cyhoedd
- Atal niwsans cyhoeddus
Awdurdodau cyfrifol i Gyngor Sir Ddinbych (PDF, 153KB)
Mae trwydded eiddo yn ddilys am gyfnod amhenodol o’r dyddiad y caiff ei rhoi. Serch hynny, fe allwch chi wneud cais am drwydded sy’n dod i ben ar ddyddiad penodol.
Pan rydych chi’n gwneud cais am drwydded eiddo mae’n rhaid i chi hysbysebu’ch cais yn y papurau newydd lleol ac yn yr eiddo am 28 diwrnod.
Faint mae’n costio?
Mae cost ymgeisio am drwydded eiddo yn dibynnu ar werth ardrethol annomestig yr eiddo. Bydd gofyn i chi hefyd dalu ffi flynyddol ar y dyddiad y cafodd eich trwydded ei rhoi. Fe gewch fwy o fanylion ar wefan gov.uk (external website).
Sut y gallaf dalu?
Gellir talu â cherdyn dros y ffôn i wasanaethau cwsmeriaid (01824 706000). Mae taliad gyda siec neu arian parod ar gael yn un o Siopau Un Alwad Sir Ddinbych yn unig. Cysylltwch â ni i gael y cyfeirnod priodol cyn ceisio talu. Gall methu â darparu’r cyfeirnod priodol achosi oedi gyda’ch cais