Oedrannau ysgol

Mae blwyddyn ysgol plentyn yn dibynnu ar ei oedran. Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid eich bod chi wedi cofrestru’ch plentyn mewn ysgol erbyn y tymor ar ôl ei ben-blwydd yn 5 oed, oni bai eich bod wedi dewis addysgu gartref.

Dosbarth Meithrin

Gall plant fynychu’r dosbarth meithrin fis Medi ar ôl eu pen-blwydd yn 3 oed.

Darganfyddwch fwy am wneud cais am le mewn dosbarth meithrin.

Dosbarth Derbyn

Gall plant fynychu’r dosbarth derbyn fis Medi ar ôl eu pen-blwydd yn 4 oed. 

Darganfyddwch fwy am wneud cais am le mewn dosbarth derbyn.

Ysgol Iau

Gall plant fynychu ysgol iau fis Medi ar ôl eu pen-blwydd yn 7 oed.

Darganfyddwch fwy am wneud cais am le mewn ysgol iau.

Ysgol uwchradd

Gall plant fynychu ysgol uwchradd fis Medi ar ôl eu pen-blwydd yn 11 oed.

Darganfyddwch fwy am wneud cais am le mewn ysgol uwchradd.

Pryd y gall eich plentyn orffen ysgol?

Mae’n rhaid i blant fynd i’r ysgol tan ddiwrnod olaf y flwyddyn ysgol y maen nhw’n 16 oed. Sef, fel rheol, diwedd blwyddyn 11.