Beth ddylwn i ei wneud â batris cartref?

Batris

Gallwch ailgylchu batris yn defnyddio cynhwysydd priodol eich gwasanaeth ailgylchu a gwastraff neu mewn Parc Ailgylchu a Gwastraff:

Gwasanaeth Trolibocs

Canllawiau

Ceisiwch ddefnyddio batris ailwefru lle bo modd.

Mae batris yn niweidiol i’r amgylchedd ac mae’n rhaid iddynt gael eu hailgylchu gan gwmnïau arbenigol. Mae’n ofynnol gan y gyfraith i bob manwerthwr trydanol ac archfarchnad fawr ddarparu cyfleusterau ailgylchu am ddim. Ewch â nhw gyda chi pan fyddwch yn ymweld â'r siopau hyn i'w gwaredu'n ddiogel.

Gallwch ddod o hyd i'ch cyfleusterau ailgylchu agosaf ar RecycleNow (gwefan allanol).

Batris car

Beth ddylwn i ei wneud â batris car?

Mwy o wybodaeth

Mae gwasanaeth ailgylchu a gwastraff y cartref yn wasanaeth ar gyfer preswylwyr Sir Ddinbych.

Mae modd i fusnesau, elusennau a sefydliadau sector cyhoeddus ddefnyddio ein gwasanaethau gwastraff masnachol neu ddefnyddio contractwr rheoli gwastraff preifat trwyddedig.

Mwy o wybodaeth, yn cynnwys pa wasanaethau gwastraff masnachol sydd ar gael.