Dyma eich gwasanaeth casglu gwastraff ac ailgylchu newydd

Eich gwasanaeth casglu gwastraff ac ailgylchu newydd

O ddydd Llun 3 Mehefin 2024, rydym ni'n cyflwyno newidiadau i'r gwasanaeth casglu deunydd ailgylchu a gwastraff, yn cynnwys darparu cynwysyddion newydd a chasglu deunydd ailgylchu yn wythnosol.

Trolibocs

Eich gwasanaeth newydd

Gwasanaeth Trolibocs

Gwasanaeth Trolibocs: Gwasanaethau a gwybodaeth


Trolibocs

Trolibocs

Ar gyfer ailgylchu deunyddiau sych wedi’u didoli ac eitemau trydanol bychain (bob wythnos). Dysgwch fwy am y system Trolibocs.

Bag glas amldro

Bag glas amldro

Ar gyfer ailgylchu cardbord (bob wythnos).

Clip batris pinc amldro

Clip batris pinc amldro

Ar gyfer batris tŷ (bob wythnos).

Cadi oren

Cadi oren

Ar gyfer gwastraff bwyd (bob wythnos) a chadi bach arian ar gyfer y tŷ.


Bin glas (neu ddu) 240 litr ar olwynion

Bin glas (neu ddu) 240 litr ar olwynion

Ar gyfer deunyddiau nad oes modd eu hailgylchu (bob 4 wythnos), o'ch bin glas neu ddu 240 litr ar olwynion presennol.

Sach gwyn untro

Sach gwyn untro

Ar gyfer casgliadau tecstilau. Gwasanaeth dewisol.

Cadi du (gyda chaead porffor)

Cadi du (gyda chaead porffor)

Ar gyfer casgliadau cynnyrch hylendid amsugnol (bob wythnos). Gwasanaeth dewisol. Mae'n rhaid cofrestru.

Bin ar olwynion gwyrdd

Bin ar olwynion gwyrdd

Ar gyfer casgliadau gwastraff gardd (bob pythefnos) os ydych chi wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn, y codir tâl amdano.

Eich gwasanaeth newydd

Mae eich gwasanaeth newydd yn darparu:

  • Hyd at 290 litr o ddeunydd ailgylchu wedi'i ddidoli bob wythnos, o:
    • System wahanu'r Trolibocs (deunyddiau ailgylchu sych ac eitemau trydanol bychain).
    • Bag glas amldro (ar gyfer ailgylchu cardbord).
    • Clip batris pinc (ar gyfer batris tŷ).
  • Hyd at 23 litr o wastraff bwyd i’w ailgylchu mewn cadi oren (neu un du efo caead oren o 2024 ymlaen) (ar gyfer gwastraff bwyd) a chadi bach arian i'w gadw yn y tŷ yn ystod yr wythnos.
  • Hyd at 240 litr o ddeunyddiau nad oes modd eu hailgylchu bob 4 wythnos, o'ch bin glas (neu ddu) 240 litr ar olwynion presennol. Byddwn yn darparu bin 240 litr ar olwynion i unrhyw aelwyd sydd heb un.
  • Casgliadau tecstilau, mewn sachau gwyn untro. Darperir y gwasanaeth hwn gan Fenter Gymdeithasol Co-Options.
  • Hyd at 40 litr o gynnyrch hylendid amsugnol fel clytiau a gwastraff anymataliaeth bob wythnos, o gadi du gyda chaead porffor. Mae casgliadau cynnyrch hylendid amsugnol yn wasanaeth am ddim dewisol, ac mae angen cofrestru ar ei gyfer.
  • Gwastraff gardd o'ch cartref bob pythefnos, os ydych chi wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn, y codir tâl amdano.

Pecyn Gwybodaeth: Trolibocs (PDF, 2.26MB)


Tudalennau cysylltiedig


Logo Sir Ddinbych yn ailgylchu