Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU 2022-25

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Rhwng 2022 a 2025, bu i Gyngor Sir Ddinbych weithio gyda chymunedau, busnesau a sefydliadau lleol i ddarparu buddsoddiad o £25.6 miliwn trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. 

Bu i’r cyllid hwn, a oedd yn disodli’r hen Raglen Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd, gefnogi 48 o brosiectau ar draws y sir.  Bu i’r prosiectau hyn greu cyfleoedd newydd i breswylwyr, cefnogi busnesau a gwella lleoedd a chyfleusterau ar draws Sir Ddinbych.

Blaenoriaethau Buddsoddi

Strwythurwyd y gronfa o gwmpas tri maes blaenoriaeth allweddol:

  • Cymunedau a Lleoedd – £10.94 miliwn
    Cefnogi gwelliannau i fannau cyhoeddus, gwella isadeiledd lleol a chryfhau gwasanaethau cymunedol.
  • Cefnogi Busnesau Lleol – £3.2 miliwn
    Buddsoddi mewn mentrau lleol i hybu twf, gwella cynhyrchiant a chreu cyfleoedd cyflogaeth newydd.
  • Pobl a Sgiliau – £11.9 miliwn
    Creu llwybrau i unigolion i ddatblygu sgiliau newydd a gwella eu rhagolygon cyflogaeth.

Buddsoddiad ychwanegol

Cafodd £1.7 miliwn yn ychwanegol ei glustnodi ar gyfer menter Lluosi Llywodraeth y DU, sy’n canolbwyntio ar wella sgiliau rhifedd oedolion.

Mae’r rhaglen yn cynnig cymorth wedi’i deilwra i helpu unigolion i fagu hyder a galluedd gyda rhifau, gan eu grymuso mewn bywyd bob dydd a chyflogaeth.

Cynllun buddsoddi

Cafodd cynllun buddsoddi ei gyflwyno i Lywodraeth y DU ar 1 Awst 2022.  Mae’r themâu a gododd o Gynllun Corfforaethol y Cyngor 2022-2027 wedi helpu i ddatblygu’r cynllun buddsoddi a’r targedau gan weithio at ddarparu cyflogaeth deg a chyfleoedd gwaith da i bawb, yn ogystal â chreu a datblygu lleoedd a chymunedau cynaliadwy y gellir ymfalchïo ynddyn nhw.

Bydd y cynllun yn ystyried tair thema’r gronfa fel y’u nodir gan y Llywodraeth.

Wrth ddatblygu’r cynllun rydym hefyd yn ystyriol o amcanion y gronfa a osodwyd gan y Llywodraeth:

  • Rhoi hwb i gynhyrchiant, cyflogau, swyddi a safonau byw
  • Lledaenu cyfleoedd a gwella gwasanaethau cyhoeddus
  • Adfer synnwyr o gymuned, balchder lleol a pherthyn
  • Grymuso arweinwyr lleol a chymunedau

Wrth ddatblygu ein cynllun buddsoddi lleol, bu i ni weithio mewn partneriaeth â chynghorwyr, Aelodau Seneddol a budd-ddeiliaid lleol, yn cynnwys busnesau a thrigolion.

Gweithio Rhanbarthol

Er bod Sir Ddinbych wedi datblygu ei gynllun buddsoddi ei hun, bu iddo hefyd ffurfio rhan o’r Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol Gogledd Cymru ehangach.  Bu i ni weithio gyda’r awdurdodau cyfagos canlynol:

  • Cyngor Gwynedd
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
  • Cyngor Sir y Fflint
  • Cyngor Sir Ynys Môn
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Grant programmes and local funds

Gan gydnabod pwysigrwydd cefnogi sefydliadau llai a mentrau llawr gwlad, bu i Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU hefyd ddarparu amrywiaeth o gronfeydd allweddol a rhaglenni grant.

Dyluniwyd y rhain i wneud cyllid Llywodraeth y DU yn fwy hygyrch a sicrhau bod ei fuddion yn cael eu teimlo’n eang ar draws y sir:

  • Cefnogi Cronfa Allweddol Busnesau Lleol (yn cynnwys y Gronfa Allweddol Pobl a Sgiliau): £2.2 miliwn
  • Cronfa Allweddol Capasiti Cymunedol (yn cynnwys Cronfa Allweddol Lluosi): £2.1 miliwn
  • Grantiau Cymunedol a Rhaglen Celfyddydau Creadigol:  £600,000
  • Grant Gwella Canol y Dref:  £240,000

Mae’r cronfeydd hyn wedi galluogi i fentrau a phrosiectau llai i ffynnu, gan gyfrannu at gymunedau bywiog ac economi lleol cryfach. 

Prosiectau

Gweler yr holl brosiectau sydd wedi’u hariannu drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Canlyniadau allweddol

Mae’r cyllid hwn wedi cefnogi amrywiaeth o fentrau sydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr yn lleol.  Mae rhai o’r canlyniadau allweddol yn Sir Ddinbych yn cynnwys:

  • 25,111 o gyfleoedd i wirfoddoli wedi’u cefnogi
  • Dros 5,000 o ddigwyddiadau a gweithgareddau lleol wedi’u darparu
  • 119 o gyfleusterau cymunedol wedi’u creu neu eu gwella
  • Dros 49,000 o goed wedi’u plannu
  • 52 o swyddi newydd wedi’u creu
  • 261 o swyddi wedi’u diogelu
  • 1,397 o bobl wedi ennill cymhwyster neu wedi cwblhau cwrs
  • Dros 800 o fusnesau wedi’u cefnogi
  • Bron i 1,000 o sefydliadau wedi derbyn cymorth 

Beth nesaf?

Bu i Lywodraeth y DU ymestyn Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU am flwyddyn bontio tan 31 Mawrth 2026, gyda £42.4 miliwn yn ychwanegol wedi’i ddyrannu i Ogledd Cymru ar gyfer 2025–26. Daw £8.6 miliwn o hynny i Sir Ddinbych i gefnogi prosiectau a blaenoriaethau lleol.

Dysgwch fwy am flwyddyn bontio Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU 2025-26