Prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Gogledd Cymru – Egnïol, Iach a Hapus

Arweinydd y Prosiect: Gogledd Cymru Actif
Mae’r prosiect hwn yn cynnwys mwy nag un awdurdod lleol.
Trosolwg o’r prosiect
Pobl leol yn aml iawn sy’n meddu ar yr allweddi i ddatgloi newidiadau cadarnhaol, hirdymor yn eu cymunedau. Ein nod yw gweithio’n lleol i gael gwell dealltwriaeth o’r heriau a’r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu wrth geisio bod yn egnïol a mynd ati ar sail hynny i sicrhau "iechyd a lles da".
Byddwn yn arbrofi â dulliau newydd o weithio dan arweiniad y gymuned, a fydd yn gynaliadwy a dyfeisgar ac yn rhoi grym i bobl leol gyfranogi o benderfyniadau a chreu dulliau lleol i’w helpu i symud o gwmpas yn fwy.
Yn seiliedig ar ddata ynglŷn ag iechyd, lles ac anghydraddoldeb byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â’r Awdurdodau Lleol wrth adnabod cymunedau (dwy ymhob awdurdod) sydd â’r angen mwyaf am ein cymorth, er mwyn codi’r gwastad o safbwynt iechyd a lles y boblogaeth.
Wrth greu darlun lleol o’r asedau unigol a chymunedol byddwn yn meithrin cyswllt â phobl leol allweddol a phartneriaid ac yn dod â hwy ynghyd er mwyn rhoi grym i arweinwyr lleol, datblygu cynlluniau ar y cyd i leihau lefelau anweithgarwch a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb o safbwynt iechyd a chymdeithas.
Diweddariad y prosiect
Crynodeb y prosiect - mis Rhagfyr 2022 i fis Mawrth 2025
Roedd y mentrau Actif Gogledd Cymru a ddarparwyd yn Sir Ddinbych yn cynnwys ystod eang o raglenni gweithgarwch corfforol cymunedol a oedd yn hyrwyddo cynhwysiant, lles a grymusedd lleol.
Roedd y prosiectau hyn yn cynnwys ffeirio esgidiau a Soffa i 5k, rhaglenni gwyliau ysgol, mentrau beicio wedi’u harwain gan bobl ifanc a ddenodd grwpiau amrywiol, gan gynnwys oedolion hŷn, plant a theuluoedd.
Dosbarthwyd dros 500 o brydau, ac mae gweithgareddau megis sesiynau magu hyder yn beicio a gweithdai pysgota wedi helpu i leihau rhwystrau i gyfranogiad.
Cafodd y rhaglen effaith gref ar gymdeithas drwy ymgysylltiad rhyng-genedlaethol, arweinyddiaeth ieuenctid, a chryfhau ymddiriedaeth rhwng darparwyr gwasanaeth a phreswylwyr.
Roedd canlyniadau iechyd yn cynnwys cynnydd mewn gweithgarwch corfforol a gwelliant mewn lles meddyliol, yn ogystal â buddion economaidd o ran uwchsgilio gwirfoddolwyr a datblygu clybiau.
Cyflawnwyd hyn drwy ddulliau hyblyg yn seiliedig ar le a chydweithrediad traws-sector, gan sicrhau cynaliadwyedd hirdymor a pherchnogaeth gymunedol.
Mawrth 2024
Mae Actif Gogledd Cymru wedi gweithio gyda’r Cyngor i sicrhau penodiad dau o Gydlynwyr Prosiect - un mewn partneriaeth â Grŵp Cynefin/Hwb Dinbych a’r ail gyda Gwasanaethau Cefn Gwlad. Bydd hyn yn galluogi’r prosiect i dyfu capasiti er mwyn cydweithio gyda phartneriaid presennol a newydd, wrth ychwanegu gwerth i ffrydiau gwaith presennol yn y meysydd hyn.