Prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Prosiect Creu Coetir Sir Ddinbych

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Arweinydd y Prosiect: Cyngor Sir Ddinbych

Trosolwg o’r prosiect

Mae’r prosiect hwn yn ceisio gwella ac ychwanegu at tua 55.5 hectar o dir sy’n eiddo i’r Cyngor ar gyfer storio carbon, bioamrywiaeth a’r gymuned.

Bydd yn creu mwy o goetir llydanddail a chyfoeth o rywogaethau ar 5 ardal werdd mewn amrywiaeth o leoliadau, o ardaloedd preswyl trefol i fryniau’r ucheldir, yn ogystal â gwell mynediad i’r gymuned at fannau gwyrdd a natur ar gyfer hamdden, lles, addysg a chyfleoedd gwirfoddoli.

Bydd hefyd yn cyfrannu at uchelgeisiau’r Cyngor a rhai cenedlaethol i fod yn ddi-garbon net ac yn fwy ecolegol gadarnhaol erbyn 2030.

Diweddariad y prosiect

Mawrth 2024

Bu Ceidwaid Gwasanaethau Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych, y Tîm Bioamrywiaeth a’r Tîm Hinsawdd wrthi’n brysur ar y cyd â gwirfoddolwyr brwdfrydig o’r cymunedau lleol, grwpiau buddiant ac ysgolion yn plannu’r 11,000 o goed cyntaf (o blith tua 40,000 y bydd y prosiect yn eu plannu) cyn y Pasg.

Maent wedi braenaru’r tir ar y rhan helaeth o’r safleoedd a rhoi ffensys o’u hamgylch, gwella’r mynedfeydd a chloddio pyllau. Bwriedir caffael contractwyr i wneud gwaith adeiladu fel creu llwybrau a gosod celfi yn yr haf cyn i’r gwaith plannu ailgychwyn yn yr hydref ar y pedwerydd safle cymunedol a safle ar ael y bryn yn yr AHNE.

Mae gwaith plannu wedi dechrau hefyd mewn pump o’r wyth o ysgolion fel rhan o’u cynlluniau bioamrywiaeth a bydd y tair ysgol arall yn cychwyn yn yr hydref.

Logo Wedi'i Yrru Gan Ffyniant Bro