Rhyddid gwybodaeth

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn rhoi hawl i aelodau’r cyhoedd gyrchu gwybodaeth a gofnodwyd sy’n cael ei dal gan awdurdodau cyhoeddus fel y cyngor.

Sut mae gofyn am wybodaeth?

Cyn i chi ofyn am wybodaeth

Rydym ni'n cyhoeddi llawer o wybodaeth drwy ein Cynllun Cyhoeddi ac ein tudalen Setiau Data. Gwiriwch yma cyn gwneud cais Rhyddid Gwybodaeth, oherwydd mae'n bosibl bod y wybodaeth rydych ei eisiau ar gael yn barod mewn rhan arall o'r gwefan.

Gallwch ofyn am unrhyw wybodaeth yr ydym ni’n ei dal. Dyma rai enghreifftiau o geisiadau’r ydyn ni wedi eu derbyn yn y gorffennol:

  • Darparwch y ffioedd wythnosol uchaf, isaf a’r ffi cyfartaledd gwirioneddol sy’n cael ei dalu i ddarparwyr gofal person hŷn eleni?
  • Oes modd i mi gael arwynebedd llawr cyfan yn Neuadd y Sir a’r nifer o staff sy’n gweithio yno?
  • Sawl disgybl gafodd ei g/wahardd o’ch ysgolion uwchradd yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf?
  • Pa lyfrau yw’r rhai mwyaf poblogaidd sy’n cael eu benthyg o’r llyfrgell? 

Weithiau fe fydd yna resymau dilys am wrthod eich cais, e.e. oherwydd y byddai rhyddhau’r wybodaeth yn niweidiol i berson arall, neu nid ydym yn dal y wybodaeth rydych chi’n gofyn amdani. Yn yr achosion hyn, fe rown wybod i chi ein bod yn gwrthod eich cais am wybodaeth, ac fe esboniwn y rhesymau.

Os bydd arnoch eisiau gofyn am wybodaeth bersonol amdanoch chi, dylech wneud eich cais dan y Ddeddf Diogelu Data, yn hytrach na’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. 

Gofyn am wybodaeth ar-lein

Fel arall, gallwch chi:

  • Ebost: gwybodaeth@sirddinbych.gov.uk 
  • Ysgrifennu llythyr at: Swyddog Mynediad at Wybodaeth, Tîm Rheoli Gwybodaeth Corfforaethol, Cyngor Sir Ddinbych, Blwch Post 62, Rhuthun, LL15 9AZ.

Fe ddown yn ôl atoch chi o fewn 20 diwrnod gwaith.

Os oes angen cymorth arnoch i wneud eich cais, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt ar 01824 706000 a daliwch y lein ar gyfer ‘pob ymholiad arall’.

Fydd yna gost?

Ni chodir tâl am unrhyw gais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, ond mae’n bosib y codir tâl am gostau cysylltiedig fel llungopïo neu bostio.

Y Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (gwefan allanol) ydi awdurdod annibynnol y Deyrnas Unedig sydd wedi ei sefydlu i orfodi cyfreithiau sy’n ymwneud â chyrchiad cyhoeddus i wybodaeth. Mae’n darparu cyngor i’r cyhoedd ac i sefydliadau fel y Cyngor, sy’n dal gwybodaeth bersonol a chofnodion swyddogol.

Dogfennau cysylltiedig