Cynllun Corfforaethol 2022 i 2027: Crynodeb

Mae ein Cynllun Corfforaethol yn nodi beth rydym eisiau ei gyflawni ar gyfer pobl a chymunedau Sir Ddinbych dros y 5 mlynedd nesaf. I greu'r "Sir Ddinbych a Garem".

1. Tai o ansawdd yn Sir Ddinbych sy'n bodloni anghenion pobl

  • Sicrhau bod pobl yn gallu cael tai o ansawdd sy’n bodloni eu hanghenion.
  • Helpu pobl i wella effeithlonrwydd ynni eu cartrefi.
  • Gweithio i atal digartrefedd.

2. Sir Ddinbych ffyniannus

  • Cefnogi twf economaidd.
  • Datblygu cynllun i dyfu busnesau Sir Ddinbych yn y dyfodol.
  • Darparu cyngor a chefnogaeth i fusnesau dyfu a helpu cymunedau lleol i ffynnu.
  • Cynnal rhwydwaith ffyrdd o ansawdd a galluogi pobl i gael addysg, cyflogaeth, gwasanaethau a gweithgareddau.
  • Cefnogi cymunedau gyda sgiliau a rhwydweithiau digidol gwell.

3. Sir Ddinbych iachach, hapusach a gofalus

  • Darparu gofal cymdeithasol o safon uchel.
  • Cefnogi pobl o bob oed i fyw’n dda a bod yn ddiogel.
  • Helpu pobl i fyw’n annibynnol gan ddarparu cefnogaeth pan mae angen.
  • Gweithio i gefnogi lles personol a chymunedol.
  • Sicrhau bod pawb yn gallu cael gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn naturiol ar bob cam yn eu bywydau.
  • Cefnogi defnyddio Cymraeg yn ehangach a dathlu diwylliant Cymru.
  • Gweithio i fynd i’r afael ag annhegwch a thlodi mae ein cymunedau’n ei wynebu.

4. Sir Ddinbych sy'n dysgu a thyfu

  • Cefnogi rhieni a phant ifanc yng nghamau cynnar eu datblygiad.
  • Sicrhau bod gan bawb gyfleoedd teg i ddysgu.
  • Darparu adeiladau a chyfleusterau o safon sy’n cefnogi dysgu a chymunedau llewyrchus.
  • Cefnogi pobl i ddysgu sgiliau newydd, gwirfoddoli a dod o hyd i swyddi da.

5. Sir Ddinbych mwy gwyrdd

  • Dod yn sefydliad ecolegol gadarnhaol a di-garbon net erbyn 2030.
  • Gofalu am yr amgylchedd naturiol a'i wella.
  • Gweithio gyda chymunedau i ymdopi ag effeithiau newid hinsawdd a'u lleihau.
  • Gwella cyfraddau ailgylchu a lleihau gwastraff.
  • Cefnogi ein hisadeiledd gwyrdd.

6. Cyngor sy'n cael ei gynnal yn dda ac sy'n uchel ei berfformiad

  • Sefydlu diwylliant cadarnhaol o uchelgais, tryloywder a gwelliant parhaus.
  • Datblygu perthynas agos, llawn ymddiriedaeth rhwng ein staff, aelodau etholedig a’n cymunedau.
  • Sicrhau bod y Cyngor yn cael ei redeg yn dda ac yn rhoi gwerth da am arian.
  • Sicrhau bod Cyngor Sir Ddinbych yn gyflogwr da ac yn lle gwych i weithio.

Darllen Cynllun Corfforaethol 2022 i 2027 yn ei gyfanrwydd