Mynd yn syth i:
- Tai o ansawdd yn Sir Ddinbych sy'n bodloni anghenion pobl
- Sir Ddinbych ffyniannus
- Sir Ddinbych iachach, hapusach a gofalgar
- Sir Ddinbych sy'n dysgu a thyfu
- Sir Ddinbych wyrddach
- Cyngor sy'n cael ei gynnal yn dda ac sy'n uchel ei berfformiad
Yr hyn yr ydym ni'n falch ohono:
- Haneru nifer yr aelwydydd digartref mewn gwestai a llety gwely a brecwast.
- Cefnogi 45 o aelwydydd i ddod o hyd i gartrefi parhaol.
- Cefnogi'r gwaith o ddatblygu 147 o gartrefi newydd sbon, 15 o dai Cyngor ychwanegol, a dechrau defnyddio 269 o eiddo preifat gwag eto.
- Mae 35 o gartrefi yn Llys Awelon, Rhuthun yn llawn, gan gynnwys dau fflat seibiant.
Oeddech chi'n gwybod?
Yn ôl ystadegau Llywodraeth Cymru, mae Sir Ddinbych yn y 5 uchaf yng Nghymru o ran nifer yr unedau tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd fesul 10,000 o aelwydydd rhwng 2023 a 2024.
Rydym ni'n parhau i fynd i'r afael â'r heriau canlynol:
- Cefnogi preswylwyr fel ein bod ni’n lleihau'r nifer sy'n wynebu digartrefedd, gan gynnwys unigolion sy'n gadael gofal.
- Rydym ni'n credu y bydd mwy o bobl ar y rhestr aros am dai yn y dyfodol o ganlyniad i gynnydd yn nifer yr aelwydydd a'r diffyg dewisiadau o ran tai fforddiadwy.

Yn ôl i'r brig
Yr hyn yr ydym ni'n falch ohono:
- Creu Bwrdd Ein Rhyl newydd a fydd yn arwain ar y gwaith o ddylunio a chyflawni'r grant £20 miliwn gan Raglen Balchder mewn Lleoedd Llywodraeth y DU.
- Cyflwyno prosiectau anhygoel ledled Sir Ddinbych sydd wedi'u hariannu trwy Lywodraeth y DU gan gynnwys y Gronfa Adfywio Lleol a'r Gronfa Ffyniant Gyffredin.
- Daeth 6.39 miliwn o ymwelwyr i Sir Ddinbych yn 2023 ac yr oedd gwariant ymwelwyr wedi cynyddu 17.1% i £736.05 miliwn.
Oeddech chi'n gwybod?
Ein bod ni wedi cefnogi:
- 800 o fentrau.
- 950 o sefydliadau.
- 5,000 o ddigwyddiadau a gweithgareddau lleol.
- 170 o bobl i gael gwaith drwy gyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin.
- Rydym ni hefyd wedi plannu dros 49,000 o goed.
Rydym ni'n parhau i fynd i'r afael â'r heriau canlynol:
- Cefnogi prosiect hen Ysbyty Gogledd Cymru i sicrhau'r cyllid angenrheidiol a'r trefniadau cynllunio i gyd.
- Lleihau tlodi, er bod pobl mewn gwaith, a thlodi plant.
- Cynnal ffyrdd, pontydd a phalmentydd mewn modd amserol.

Yn ôl i'r brig
Yr hyn yr ydym ni'n falch ohono:
- Helpu 94% o'r bobl a ddefnyddiodd y gwasanaeth Pwyntiau Siarad fel y gallen nhw fyw’n ddiogel, iach ac yn dda heb gefnogaeth gan ofal cymdeithasol i oedolion.
- Annog pobl, gan gynnwys staff, i ddod yn Ofalwyr Maeth.
- Menter Natur er budd Iechyd sy’n cefnogi preswylwyr i wella eu hiechyd a’u lles.
Oeddech chi'n gwybod?
Cefnogodd y Cyngor unigolyn yn ei arddegau o'r Wcráin – y bu iddo ffoi o'r rhyfel ac a fu'n gweithio fel Gweithiwr Achos Adsefydlu i helpu teuluoedd eraill i ymgartrefu yn Sir Ddinbych – i gael swydd newydd yn Llundain.
Rydym ni'n parhau i fynd i'r afael â'r heriau canlynol:
- Helpu mwy a mwy o bobl ag anghenion cynyddol gymhleth trwy ein gwasanaethau cymdeithasol i blant ac oedolion.
- Gwnaeth atgyfeiriadau ac ymholiadau am ein Porth Cefnogi Plant a Theuluoedd gynyddu o 5,056 yn 2023 i 5,743 yn 2024.
- Cafodd fwy o ofalwyr sy’n oedolion asesiad o angen: 447 yn 2024 o 370 yn 2023.
- Gwnaeth nifer y bobl a gysylltodd ag Un Pwynt Mynediad gynyddu o 4,259 ym mis Mawrth 2024 i 4,773 ym mis Mawrth 2025.

Yn ôl i'r brig
Yr hyn yr ydym ni'n falch ohono:
- Helpu mwy o deuluoedd i wneud y gorau o ofal plant sydd wedi'i ariannu, gyda 85% yn manteisio ar gynigion gofal plant wedi'i ariannu'n llawn gan Dechrau'n Deg.
- Rydym ni wedi gwneud gwelliannau i Ysgol Dewi Sant, a gwaith adnewyddu i’r Labordai Gwyddoniaeth yn Ysgol Uwchradd Dinbych ac Ysgol Dinas Brân.
- Mae ein pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, gwaith neu hyfforddiant yn 2.1% sy'n llai na'r cyfartaledd yng Nghymru.
Oeddech chi'n gwybod?
Agorodd yr ardal chwarae gynhwysol, hygyrch a chyffrous newydd yng Nghae Ddôl, Rhuthun ym mis Hydref. Mae’r ardal chwarae yn anrhydeddu hanes yr ardal leol ac yn creu man chwarae newydd a chyffrous sy'n denu teuluoedd o ardaloedd eraill i ddod i dreulio amser yn Rhuthun.
Rydym ni'n parhau i fynd i'r afael â'r heriau canlynol:
- Cefnogi ysgolion, teuluoedd a dysgwyr i wella presenoldeb a chyrhaeddiad.
- Cefnogi dysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim i wella eu cyrhaeddiad.

Yn ôl i'r brig
Yr hyn yr ydym ni'n falch ohono:
- Mae gennym ni'r ail ffigwr uchaf yng Nghymru ar gyfer y gyfran o gerbydau heb allyriadau fel cyfran o'n fflyd, sef 19.2% – sy'n gwella ansawdd yr aer ac yn lleihau costau cludiant i'r Cyngor.
- Y buddsoddiad sy’n werth miliynau o bunnoedd yng nghynlluniau amddiffyn arfordirol y Rhyl a Phrestatyn, a fydd yn amddiffyn miloedd o gartrefi a busnesau rhag effeithiau newid hinsawdd a lefel y môr yn codi.
Oeddech chi'n gwybod?
Gwnaethom ni greu tua 97 hectar o goetir newydd y llynedd – mae hynny tua maint 240 o gaeau pêl-droed, gan greu mwy o leoedd gwyrdd i drigolion eu mwynhau, gwella ansawdd yr aer a helpu i leihau risgiau llifogydd!
Rydym ni'n parhau i fynd i'r afael â'r heriau canlynol:
- Cyrraedd ein nod i ddod yn Gyngor ecolegol gadarnhaol a charbon sero net erbyn 2030.
- Cynyddu ein henw da yn dilyn cyflwyno'r model gwastraff aelwydydd newydd.
- Cefnogi busnesau a thrigolion i baratoi ar gyfer llifogydd, stormydd a gwres a lleihau eu heffaith.

Yn ôl i'r brig
Yr hyn yr ydym ni'n falch ohono:
- Dangosodd ein Harolwg Staff lefelau da o ran boddhad a balchder wrth weithio i'r Cyngor.
- Cyflwyno cyllideb gytbwys, gan gynnwys arbed ychydig dan £1 miliwn drwy newid y ffordd yr ydym ni'n rhedeg ein gwasanaeth digartrefedd.
- Cefnogi staff, aelodau etholedig a busnesau lleol i fod yn hyderus wrth ddefnyddio'r Gymraeg.
Oeddech chi'n gwybod?
- Yn ystod mis Ebrill 2024 i fis Mawrth 2025, yr oedd gennym ni'r drydedd gyfradd isaf o ran absenoldeb salwch staff o blith yr holl awdurdodau lleol yng Nghymru.
- Dywedodd Panel Annibynnol fod Sir Ddinbych yn Gyngor sy’n cael ei gynnal yn dda.
Rydym ni'n parhau i fynd i'r afael â'r heriau canlynol:
- Rheoli effaith gynyddol newid hinsawdd ar bob gwasanaeth.
- Cynnal safonau uchel yng nghanol heriau ariannol parhaus a chynyddol.
- Gwella ymddiriedaeth a boddhad yn y Cyngor pan fo ymddiriedaeth a boddhad mewn gwasanaethau cyhoeddus yn gostwng ledled y DU.

Yn ôl i'r brig