Adran 13A (1)(C) Polisi Rhyddhad Treth y Cyngor yn ôl Disgresiwn

Mae’r polisi hwn yn egluro dull Cyngor Sir Ddinbych o ddyfarnu gostyngiadau dewisol mewn biliau Treth y Cyngor dan Adran 13A(1)(c) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

Fe’i cymeradwywyd gan y Cyngor Llawn ar 8 Gorffennaf 2025.

Cynnwys:


Deddfwriaeth

Gwneir y polisi hwn dan Adran 13A, isadrannau (1)(c), (6) a (7) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, fel y cyflwynwyd drwy Adran 76 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003. Mae’r Ddeddf yn rhoi’r grym i awdurdodau bilio ostwng swm y Dreth Gyngor y mae’n ofynnol i unigolion neu grwpiau ei dalu mewn amgylchiadau eithriadol.

Yn ôl i’r cynnwys


Egwyddorion a Dibenion

Mae Adran 13A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 yn rhoi’r grym i awdurdodau lleol ddewis gostwng swm y Dreth Gyngor y mae’n ofynnol i rywun ei dalu mewn amgylchiadau eithriadol.

Mae’r polisi hwn yn egluro dull Cyngor Sir Ddinbych o ddyfarnu rhyddhad dewisol i unigolion neu grwpiau sy’n wynebu caledi ariannol, trallod personol neu heriau arwyddocaol eraill. Gellir ystyried rhoi rhyddhad pan geir tystiolaeth bendant o amgylchiadau eithriadol a bod yr holl ostyngiadau ac eithriadau statudol eisoes wedi’u gwneud.

Gweinyddir y polisi gan y Tîm Refeniw ac mae’n berthnasol i unrhyw dalwr Treth y Cyngor sy’n bodloni’r meini prawf a bennir ynddo

Nod y polisi yw darparu cefnogaeth ariannol dros dro drwy helpu i ostwng y swm o Dreth y Cyngor y mae’n ofynnol i rywun ei dalu. Weithiau, yn enwedig pan mae’r sefyllfa’n effeithio ar ryw garfan benodol o’r trethdalwyr, gellir rhoi rhyddhad am gyfnod hwy

Yn ôl i’r cynnwys


Cyllid a Thegwch

Ariennir yr holl ostyngiadau dan Adran 13A yn llwyr gan y Cyngor, ac felly mae’n rhaid inni gydbwyso’r angen sydd gan bobl am gefnogaeth a buddion trethdalwyr Sir Ddinbych yn gyffredinol. Felly, ni fyddwn yn rhoi rhyddhad ond mewn amgylchiadau gwirioneddol eithriadol, a barnwn bob cais yn ôl ei rinweddau ar sail y ffurflen a lenwyd ac unrhyw dystiolaeth ategol.

Yn ôl i’r cynnwys


Cwmpas y Polisi

Mae Adran 13A(1)(c) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 yn rhoi’r grym i awdurdodau bilio ostwng swm y Dreth Gyngor y mae’n ofynnol i rywun ei dalu ar ôl gwneud yr holl ostyngiadau ac eithriadau eraill.

Mae Cyngor Sir Ddinbych hefyd yn gweithredu Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor.

Mae’r egwyddorion canlynol yn llywodraethu ceisiadau am ostyngiad dewisol dan Adran 13A(1)(c):

  • Mae’r cynllun yn un cwbl ddewisol.
  • Nid oes gan ymgeiswyr hawl statudol i ostyngiad neu daliad.
  • Y Cyngor sy’n penderfynu ym mha fodd y mae’r cynllun yn gweithredu a pha ostyngiadau y dylid eu dyfarnu.
  • Os yw ymgeisydd yn anghytuno â phenderfyniad, gall ofyn am ychwaneg o wybodaeth a gwneud apêl (gweler Apelio).
  • Ni chaniateir unrhyw ostyngiad yn y swm o Dreth y Cyngor y mae’n ofynnol ei dalu ond pan nad oes unrhyw ryddhad ariannol arall ar gael.

Crynodeb o Adran 13A(1)(c):

  • Pan mae’n ofynnol i rywun dalu Treth y Cyngor ar gyfer unrhyw annedd gymwys, gall yr awdurdod bilio ostwng y swm sy’n rhaid ei dalu cymaint ag sy’n briodol yn ei farn ef.
  • Gall yr awdurdod ostwng y swm sy’n daladwy i ddim.
  • Gellir arfer y grym hwn gydag achosion unigol neu garfan benodol o achosion, fel y penderfyno’r awdurdod.

Yn ôl i’r cynnwys


Categorïau Rhyddhad Dewisol

Gall Sir Ddinbych roi rhyddhad yn y categorïau hyn:

  • Perchnogion Newydd Cartrefi Gwag Hirdymor a fu’n wag am fwy na phum mlynedd – Adnewyddu Cyffredinol (rhyddhad o dalu’r premiwm am dri mis)
  • Perchnogion Newydd Cartrefi Gwag Hirdymor a fu’n wag am fwy na deuddeg mis – Adnewyddu Mawr (rhyddhad o dalu’r premiwm am chwe mis)
  • Rhyddhad yn sgil argyfwng (llifogydd neu dân, er enghraifft)
  • Cefnogi rhywun mewn caledi ariannol difrifol
  • Cymorth mewn unrhyw amgylchiadau eithriadol eraill

Diffiniad: Mae annedd wag hirdymor yn un sy’n dal yn wag heb fawr ddim dodrefn ynddo am gyfnod parhaus o ddeuddeg mis neu fwy.

Perchnogion Newydd Eiddo Gwag Hirdymor a fu’n wag am fwy na phum mlynedd – Adnewyddu Cyffredinol (rhyddhad o dalu’r premiwm am dri mis)

Bwriedir i’r rhyddhad hwn sicrhau tegwch pan mae perchnogion blaenorol wedi cael eithriadau ac mae’n cymell prynwyr i roi cartrefi gwag at ddefnydd o’r newydd.

Mae’n rhaid bodloni’r meini prawf canlynol i fod yn gymwys am ryddhad o dalu’r premiwm am dri mis:

  • Mae’n rhai i’r eiddo fod wedi bod yn wag a heb fawr ddim dodrefn ynddo am o leiaf pum mlynedd cyn i’r perchennog newydd ei brynu (a bod cofnodion Treth y Cyngor yn cadarnhau hynny), ac
  • Mae’n rhaid y bwriedir defnyddio’r eiddo fel prif annedd breswyl ac nid fel ail gartref neu lety gwyliau; ac
  • Mae’n rhaid bod y perchennog newydd yn ymgymryd â chynllun gwaith adnewyddu cyffredinol er mwyn rhoi’r eiddo at ddefnydd o’r newydd.
  • Wrth ganiatáu rhyddhad, caiff y tâl premiwm ei hepgor am y tri mis cyntaf wedi prynu’r eiddo.

Mae Adnewyddu Cyffredinol yn cynnwys, er enghraifft:

  • Atgyweirio cosmetig (paentio, addurno, lloriau newydd)
  • Gwaith trwsio cyffredin ar offer plymio neu drydanol (gosod tap neu soced newydd, er enghraifft)
  • Gosod cegin neu ystafell ymolchi heb unrhyw waith strwythurol o bwys
  • Ffenestri, drysau a charpedi newydd
  • Mân blastro ac atgyweirio nenfwd
  • Ailosod gwifrau trydanol a system gwres canolog
  • Mân waith trwsio ar do
  • Trin mannau ble ceir lleithder 

Ceisiadau:

Dylid ymgeisio ar-lein a chynnwys yr holl dystiolaeth ategol y gofynnir amdani wrth gyflwyno’ch cais: rhyddhad o dalu’r premiwm am dri mis ar gyfer eiddo gwag hirdymor.

Perchnogion Newydd Eiddo Gwag Hirdymor a fu’n wag am fwy na deuddeg mis – Adnewyddu Mawr (rhyddhad o dalu’r premiwm am chwe mis)

Bwriedir i’r rhyddhad hwn sicrhau tegwch pan mae perchnogion blaenorol wedi cael eithriadau ac mae’n cymell prynwyr i roi cartrefi gwag at ddefnydd o’r newydd.

Mae’n rhaid bodloni’r meini prawf canlynol i fod yn gymwys am ryddhad o dalu’r premiwm am chwe mis:

  • Mae’n rhai i’r eiddo fod wedi bod yn wag a heb fawr ddim dodrefn ynddo am o leiaf deuddeg mis cyn i’r perchennog newydd ei brynu (a bod cofnodion Treth y Cyngor yn cadarnhau hynny), ac
  • Mae’n rhaid y bwriedir defnyddio’r eiddo fel prif annedd breswyl ac nid fel ail gartref neu lety gwyliau; ac
  • Mae’n rhaid bod y perchennog newydd yn ymgymryd â chynllun o waith adnewyddu mawr i wneud yr eiddo’n addas i fyw ynddo, ac mae’n rhaid cyflwyno tystiolaeth o’r cynllun adnewyddu gyda’r cais.
  • Wrth ganiatáu rhyddhad, caiff y tâl premiwm ei hepgor am y chwe mis cyntaf wedi prynu’r eiddo.

Disgwylir y bydd unrhyw waith adnewyddu mawr yn bodloni’r meini prawf am eithriad Dosbarth A o Dreth y Cyngor, gan gynnwys addasu’r strwythur yn sylweddol neu bod gwaith atgyweirio mawr yn gwneud yr eiddo’n anaddas i fyw ynddo.

Mae’n rhaid bod y prosiectau hyn ar raddfa sylweddol ac yn mynd ymhell y tu hwnt i waith trwsio cyffredinol.

Enghreifftiau o waith Adnewyddu Mawr:

  • Addasu’r strwythur, gan gynnwys dymchwel waliau sy’n cynnal pwysau neu’u haddasu
  • Tynnu popeth oddi ar waliau mewnol, lloriau, nenfydau, gosodiadau ac ati
  • Cynlluniau atgyweirio cynhwysfawr yn sgil difrod gan dân neu lifogydd sydd wedi effeithio ar y rhan helaeth o’r eiddo
  • Dymchwel rhannau helaeth o’r adeilad a’u hail-adeiladu
  • Ail-adeiladu neu danategu’r sylfeini’n helaeth
  • Unrhyw waith arall ar raddfa fawr sy’n mynd ymhell y tu hwnt i gynnal a chadw cyffredinol.

Ceisiadau:

Dylid ymgeisio ar-lein a chynnwys yr holl dystiolaeth ategol y gofynnir amdani wrth gyflwyno’ch cais: rhyddhad o dalu’r premiwm am chwe mis ar gyfer eiddo gwag hirdymor.

Argyfwng (Llifogydd neu Dân, er enghraifft)

Bydd y Cyngor yn ystyried ceisiadau am gymorth gan dalwyr Treth y Cyngor sydd wedi wynebu argyfwng annisgwyl fel tân neu lifogydd a bod eu cartref yn anaddas i fyw ynddo oherwydd hynny. Gellir darparu cefnogaeth os yw’r trethdalwr yn dal yn rhwym i dalu Treth y Cyngor a bod ganddynt ddim hawl i iawndal, eithriadau statudol neu daliad yswiriant am y digwyddiad.

Ceisiadau:

Dylid anfon ceisiadau ysgrifenedig drwy’r post neu drwy e-bost i refeniw@sirddinbych.gov.uk, gan nodi’r amgylchiadau penodol a rhoi amcan o’r amser nes datrysir y sefyllfa.

Asesir pob cais yn ôl ei rinweddau ei hun a bydd y gwasanaethau perthnasol yn cyfrannu lle bo hynny’n briodol.

Ni chaniateir unrhyw ostyngiad yn y swm o Dreth y Cyngor y mae’n ofynnol ei dalu ond pan nad oes unrhyw ryddhad ariannol arall ar gael. Gweld Cyfnod y Dyfarniad.

Caledi Eithriadol i Unigolyn a/neu Busnes

Cyn ystyried unrhyw gais, mae’r Cyngor yn disgwyl fod trethdalwyr yn gyntaf oll yn cadarnhau a ydynt yn gymwys i gael unrhyw ostyngiadau neu eithriadau statudol drwy Gynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor.

Ceisiadau:

Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gyflwyno’r wybodaeth ganlynol gyda’r cais:

  • Ffurflen gais am Ryddhad Dewisol o Dalu Treth y Cyngor wedi llenwi pob rhan
  • Manylion pawb arall sy’n byw yn yr eiddo
  • Datganiad cynhwysfawr o incwm a gwariant yr aelwyd a thystiolaeth ategol. Gweler ein Ffurflen Incwm a Gwariant ar-lein
  • Datganiad i gadarnhau nad oes unrhyw asedau ar gael i’w gwerthu er mwyn talu swm gofynnol Treth y Cyngor.

Bydd y Cyngor yn ystyried y ffactorau canlynol wrth asesu pob cais:

  • P’un a ymchwiliwyd i ffyrdd eraill o dalu, fel trefniant taliadau gohiriedig neu gwtogi ar gostau nad ydynt yn hanfodol er mwyn clirio’r ddyled
  • Gwneud atgyfeiriad uniongyrchol at Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych ar gyfer cyngor am ddyledion, materion ariannol a gwneud y mwyaf o incwm yn rhad ac am ddim
  • Sefyllfa ariannol bresennol yr ymgeisydd, gan gynnwys incwm, costau ac unrhyw newidiadau diweddar
  • Y sefyllfa fel yr oedd hi pan ddaeth yn ofynnol talu Treth y Cyngor yn gyntaf
  • Y camau y mae’r ymgeisydd eisoes wedi’u cymryd i dalu’r ddyled neu’i gostwng
  • A oes rhyw fath arall o gefnogaeth ar gael; er enghraifft, Gostyngiad yn Nhreth y Cyngor, Taliadau Dewisol Tai i dalu’r rhent neu fudd-daliadau eraill.

Unrhyw Amgylchiadau Eithriadol Eraill

Bydd y Cyngor yn ystyried ceisiadau gan dalwyr Treth y Cyngor, neu grwpiau penodol o unigolion, am ostyngiad yn y swm sy’n daladwy ar sail amgylchiadau eithriadol na sonnir amdanynt yn benodol yn y polisi hwn ond sy’n gyson ag egwyddorion y polisi fel y’u pennwyd. Mae’n rhaid i’r Cyngor fod o’r farn, fodd bynnag, bod yr amgylchiadau sy’n gysylltiedig â’r cais yn teilyngu gostyngiad pellach yn y swm o Dreth y Cyngor sy’n daladwy, gan ystyried effaith hynny ar bawb arall sy’n talu Treth y Cyngor.

Ceisiadau:

Dylid anfon ceisiadau ysgrifenedig drwy’r post neu drwy e-bost i refeniw@sirddinbych.gov.uk, gan nodi’r amgylchiadau penodol a rhoi amcan o’r amser nes datrysir y sefyllfa.

Asesir pob cais yn ôl ei rinweddau ei hun a bydd y gwasanaethau perthnasol yn cyfrannu lle bo hynny’n briodol.

Ni chaniateir unrhyw ostyngiad yn y swm o Dreth y Cyngor y mae’n ofynnol ei dalu ond pan nad oes unrhyw ryddhad ariannol arall ar gael. Gweld Cyfnod y Dyfarniad.

Yn ôl i’r cynnwys


Taliadau Premiwm

Wrth asesu cais dan Adran 13A, byddwn weithiau’n diddymu’r premiwm yn unig a bydd y dreth safonol yn dal yn daladwy.

Gan ei bod yn ofynnol talu cyfradd safonol Treth y Cyngor beth bynnag ar gyfer eiddo sy’n destun premiwm, nid yw diddymu’r premiwm ond yn gostwng y swm sy’n daladwy i’r gyfradd safonol honno ac nid mwy.

Yn ôl i’r cynnwys


Ceisiadau

Gellir gwneud cais ar-lein neu drwy lenwi’r ffurflen gais Adran 13a (a ddarperir gan y Tîm Refeniw) a’i hanfon drwy’r post/e-bost i:

Yn ôl i’r cynnwys


Newid mewn Amgylchiadau

  • Gall y Cyngor adolygu neu addasu unrhyw ostyngiad dewisol os bydd amgylchiadau’r ymgeisydd yn newid.
  • Mae’n rhaid i ymgeiswyr roi gwybod i’r Cyngor - dros y ffôn, drwy e-bost neu drwy lythyr - am unrhyw newidiadau sy’n effeithio ar eu hawliad cyn pen 21 o ddiwrnodau.
  • Os methant â gwneud hynny, gall y Cyngor ddiddymu’r gostyngiad am weddill y flwyddyn a cheisio ad-daliad o unrhyw ryddhad a roddwyd eisoes.

Yn ôl i’r cynnwys


Dyletswyddau’r ymgeisydd ac aelwyd yr ymgeisydd

Mae’n rhaid i ymgeiswyr am ryddhad dewisol o dalu Treth y Cyngor:

  • Ddarparu i’r Cyngor unrhyw wybodaeth sydd ei hangen i asesu’r cais.
  • Hysbysu’r Cyngor yn ddiymdroi o unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau a allai effeithio ar eu hawliad.
  • Darparu unrhyw ddogfennau neu fanylion ychwanegol sy’n berthnasol i’w hawliad ar gais rhesymol.
  • Dal i dalu eu biliau’n unol â’u rhwymedigaethau statudol nes bod y Cyngor yn cyhoeddi penderfyniad terfynol ynglŷn â’u cais am gymorth drwy’r polisi dewisol.

Yn ôl i’r cynnwys


Cyfnod y Dyfarniad a Hysbysu

Drwy Ostyngiadau Dewisol, mae Cyngor Sir Ddinbych yn cynnig cefnogaeth ariannol tymor byr i helpu talwyr Treth y Cyngor sydd mewn caledi dros dro.

Y Pen Rheolwr Refeniw, Budd-daliadau a Chontractau a fydd yn cymeradwyo ceisiadau am ostyngiad dewisol.

Y Cyngor sy’n pennu cyfnod pob dyfarniad fel y gwêl orau.

  • Nodir y dyddiad y daw i ben yn yr hysbysiad o’r penderfyniad.
  • Daw’r dyfarniad i rym fel arfer ar ddyddiad y cais.
  • Ni ellir ôl-ddyddio’r gostyngiad ond os yw’r ymgeisydd yn gallu dangos fod rheswm da dros gyflwyno cais hwyr.

Gwneir pob dyfarniad am un tro’n unig a gellir rhoi rhyddhad o swm cyfan Treth y Cyngor sy’n daladwy neu ran ohono.

  • Cyfyngir pob dyfarniad i’r flwyddyn ariannol gyfredol a daw i ben yn awtomatig ddiwedd y flwyddyn honno; mae’n rhaid cyflwyno cais newydd ar gyfer y flwyddyn ariannol ddilynol.
  • Cymhwysir y credyd yn syth i gyfrif Treth y Cyngor yr ymgeisydd, gan ostwng y swm sy’n daladwy.
  • Pennir cyfnod y gostyngiad ar sail amgylchiadau’r trethdalwr neu’r annedd.

Yn ôl i’r cynnwys


Hysbysu

Ar ôl cyflwyno’r holl ddogfennau angenrheidiol, bydd Cyngor Sir Ddinbych yn cyhoeddi penderfyniad cyn pen 28 o ddiwrnodau neu cyn gynted ag y bo modd wedi hynny.

Bydd y Cyngor yn hysbysu’r ymgeisydd yn ysgrifenedig, boed hynny i gadarnhau’r dyfarniad neu egluro’r rhesymau dros wrthod y cais.

Mae’n rhaid i ymgeiswyr ddal i dalu Treth y Cyngor fel y’i pennir yn eu bil diweddaraf wrth i’r Cyngor ystyried eu cais; os methir â gwneud hynny, bydd y Cyngor yn dwyn achos i adennill y dreth na thalwyd.

Yn ôl i’r cynnwys


Y Drefn Apelio

Er nad yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 yn rhoi unrhyw hawl statudol i apelio yn erbyn y modd y mae’r Cyngor yn arfer ei bwerau dewisol, bydd Cyngor Sir Ddinbych yn ystyried apeliadau yn erbyn penderfyniadau i wrthod rhoi Rhyddhad Dewisol neu gyfyngu arno:

  • Mae’n rhaid cyflwyno apêl yn ysgrifenedig cyn pen 28 o ddiwrnodau wedi dyddiad yr hysbysiad.
  • Bydd y Cyngor yn anfon ymateb cyn pen deufis wedi derbyn yr apêl.

Os byddwch yn dal yn anfodlon â phenderfyniad y Cyngor, gallwch gyfeirio eich apêl at Dribiwnlys Prisio Cymru:

Ar ôl cyflwyno’ch apêl, bydd y Tribiwnlys, sy’n gorff annibynnol, yn adolygu eich achos ac yn eich hysbysu o’r canlyniad yn ei bryd.

Yn ôl i’r cynnwys


Cyfraith Achosion

Efallai y bydd o fudd i ymgeiswyr ac apelyddion gael golwg ar rai o benderfyniadau’r tribiwnlys yn y gorffennol ynglŷn ag arfer pwerau dewisol ac apelio yn erbyn hynny. Mae’r achosion canlynol yn amlygu egwyddorion y gallai fod yn werth ichi eu hystyried wrth benderfynu gwneud apêl neu beidio:

Yn ôl i’r cynnwys