Prosiect gwelliannau i'r barth cyhoeddus ar Stryd Fawr Prestatyn:

Ymgynghoriad ar Anghenion Mynediad Busnesau

Rydym yn ceisio cysylltu â busnesau Prestatyn ar y Stryd Fawr a’r strydoedd cyfagos, a fydd o bosibl yn cael eu heffeithio gan y gwaith sydd i ddod i wneud gwelliannau.

Beth ydym yn ei wneud?

Fel rhan o Gronfa Adfywio Leol Llywodraeth y DU, dyrannwyd cyllid i Gyngor Sir Ddinbych i gynnal nifer o brosiectau a fydd yn helpu i wella edrychiad a theimlad rhai o ardaloedd allweddol Sir Ddinbych.

Un o’r ardaloedd hynny yw’r parth cyhoeddus (man gweladwy) ar Stryd Fawr Prestatyn.

Rydym yn ceisio cysylltu â busnesau Prestatyn ar y Stryd Fawr a’r strydoedd cyfagos, a fydd o bosibl yn cael eu heffeithio gan y gwaith sydd i ddod i wneud gwelliannau.

Ariannwyd y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU dan rownd 3 cyllid y Gronfa Ffyniant Bro. 

Gweler y rhestr lawn o brosiectau Rownd 3 y Gronfa Adfywio Leol a ariannwyd gan Lywodraeth y DU

Pam ydym ni'n gwneud hyn?

Mae'n bwysig i ni deallt unrhyw hanghenion y busnesau'r Stryd Fawr o ran mynediad ac unrhyw ymweliadau/ danfoniadau posibl ganddynt, fel bod modd i ni sicrhau cyn lleied â phosibl o darfu wrth gynllunio’r gwelliannau i'r Stryd Fawr.

Beth ydym ni eisiau ei wybod?

Mae'r ymgynghoriad hwn yn gyfan gwbl i'n helpu i ddeall anghenion mynediad o unrhyw fusnesau lleol ac unrhyw ddanfoniadau/ymweliadau maen nhw'n eu derbyn.

Os ydych chi'n breswylydd neu'n ymwelydd â Phrestatyn, gweler y ddolen isod ymgynghoriad ar wahân ar y cynnig. Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus ar agor tan 5 Gorffennaf 2026:

Stryd Fawr Prestatyn: prosiect gwelliannau i'r barth cyhoeddus: ymgynghoriad cyhoeddus

Pa wahaniaeth a fydd yn ei wneud?

Mae'n pwysig i ni deallt unrhyw anghenion mynediad busnesau ac unrhyw ddanfoniadau / ymweliadau a dderbyniant.

Sut ellwch chi gymryd rhan?

Cymerwch rhan yn ein harolwg

Os ydych chi'n gweithio yno ar Stryd Fawr, Prestatyn neu strydoedd cyfagos, byddem yn ddiolchgar pe gallech gwblhau'r arolwg canlynol:

Prosiect gwelliannau i'r barth cyhoeddus Stryd Fawr Prestatyn: arolwg angheinion a mynediad busnesau (gwefan allanol)

Gellir cael copïau papur o’r arolwg a’u dychwelyd yma:

Llyfrgell a Siop Un Alwad Prestatyn,
Rhodfa Brenin,

Prestatyn,
LL19 9AA

Gallwch e-bostio:swyddfarhaglencorfforaethol@sirddinbych.gov.uk

Gallwch ysgrifennu at:

Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol,
Blwch Post 62,
Rhuthun.
LL15 9AZ,

Y dyddiad cau ar gyfer pob ymateb yw: Dydd Gwener 31 Gorffennaf 2026.

Sut fyddwn ni'n rhoi adborth?

Byddwn yn casglu’r holl ymatebion i’r arolwg ac yn cysylltu â busnesau sydd ag anghenion mynediad cyn i'r gwaith adeiladu ddechrau.

Adborth

Gwiriwch yn ôl ar gyfer canlyiadau