Gorchymyn Rheoleiddio Traffig | Canol Tref Llangollen: Newidiadau i gyfyngiadau parcio, aros a llwytho
Rhowch eich barn ar newidiadau i gyfyngiadau parcio, aros a llwytho yng Nghanol Tref Llangollen
Beth ydym yn ei wneud?
Rydym yn ymgynghori ar Orchymyn Rheoleiddio Traffig i gyflwyno’r newidiadau a ganlyn i drefn y ffyrdd yng nghanol tref Llangollen:
- Heol y Farchnad: Cael gwared ar y ddau ofod parcio agosaf ar y gyffordd â Heol y Castell. Gosod gofod parcio yn lle un o’r gofodau yn y safle tacsis. Bydd y gofod parcio hwn am ddim. Rhwng 9am a 5pm, ni fydd modd aros mwy nag awr yn y gofod parcio ac ni chaniateir dychwelyd iddo cyn pen 2 awr.
- Sgwâr y Neuadd (y tu allan i siop Aydin's Fish and Chips): Cyflwyno man parcio newydd, arhosiad byr a orfodir yn gyfreithiol er mwyn caniatáu i bobl “bicio i’r siop”. Bydd y gofod parcio hwn am ddim. Rhwng 9am a 5pm, ni fydd modd aros mwy nag awr yn y gofodau parcio ac ni chaniateir dychwelyd i’r un gofod cyn pen 2 awr.
- Willow Street: Cyflwyno llinellau melyn dwbl i ochr chwith y ffordd ar hyd y ffordd gyfan. Cyflwyno llinellau melyn dwbl ychwanegol ar ran fach o ochr dde’r ffordd y tu allan i’r Clwb Ieuenctid
Pam ydym ni'n gwneud hyn?
Mae Llangollen yn dref o bwys hanesyddol yn ne Sir Ddinbych.
Yn ogystal â bod yn boblogaidd â thwristiaid ac ymwelwyr dydd, mae Llangollen yn dref ‘canolbwynt’ sy’n gwasanaethu rhwydwaith mawr o bentrefi a chymunedau gwledig eraill yn yr ardal.
Mae Llangollen wedi cael ei hadeiladu mewn dyffryn afon serth. Mae mannau parcio, aros a llwytho yn brin yng nghanol y dref oherwydd hyn.
Mae problemau yng nghanol y dref yn aml oherwydd parcio anystyriol, un ai oherwydd amharodrwydd i dalu neu ddiffyg lle ym meysydd parcio Talu ac Arddangos arhosiad byr y dref.
Mae nifer o faeau parcio ‘arhosiad byr iawn’ tebyg ar gael yn barod yn Parade Street, Stryd y Dwyrain, Heol y Dderwen, Stryd y Capel a Heol y Bryn ac mae rheolau gorfodi parcio ar waith rhwng 9am a 5pm. Mae’r rhain yn cael eu defnyddio gan bobl leol ac ymwelwyr.
Gobaith y Cyngor wrth gyflwyno’r newidiadau arfaethedig hyn yn Heol y Farchnad, Sgwâr y Neuadd a Willow Street yw y gallwn leihau neu ddileu effaith yr ymddygiad parcio anystyriol yn yr ardaloedd allweddol ychwanegol hyn yng nghanol y dref.
Beth ydym ni eisiau ei wybod?
Os oes gennych sylwadau am y Gorchymyn arfaethedig neu os hoffech wrthwynebu, cysylltwch â ni. Mae rhagor o fanylion isod.
Pa wahaniaeth a fydd yn ei wneud?
Gorfodi
- Parcio “arhosiad byr iawn” Ni chaniateir aros mwy nag awr rhwng 9am a 5pm. Ni chaniateir dychwelyd cyn pen 2 awr. Gall unrhyw un sy’n torri’r rheolau hyn gael Rhybudd Talu Cosb (PCN) o ddim mwy na £50
- Llinellau melyn dwbl Gall unrhyw un sy’n torri rheolau llinellau melyn dwbl gael Rhybudd Talu Cosb (PCN) o ddim mwy na £70.
Drwy roi’r cynigion hyn ar waith, rydym yn gobeithio gwella llif y traffig a chynnal mynediad i gerddwyr drwy leihau neu ddileu parcio anystyriol yn yr ardaloedd a ddisgrifiwyd gennym.
Hoffem hefyd nodi’r pwyntiau a ganlyn:
- Ni fydd unrhyw golled net o leoedd parcio yng nghanol y dref o ganlyniad i’r newidiadau arfaethedig hyn. Byddwn yn ennill dau ofod parcio a cholli un man parcio i dacsis o ganlyniad i’r cynigion
- Ni fydd unrhyw effaith ar ofodau wedi’u nodi ar gyfer pobl anabl (bathodynnau glas) o ganlyniad i’r newidiadau arfaethedig hyn.
- Bydd y parcio newydd “arhosiad byr iawn” am ddim, yn unol â mannau parcio tebyg eraill yng nghanol y dref. Fodd bynnag, byddant yn cael eu gorfodi gan Swyddogion Gorfodi Sifil (CEOs) rhwng 9am a 5pm i sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio’n gywir.
- Ni fydd unrhyw effaith ar safleoedd bysiau na’u lleoliadau o ganlyniad i’r newidiadau arfaethedig hyn.
Sut ellwch chi gymryd rhan?
Cyn gweithredu Gorchymyn Rheoleiddio Traffig, mae’n ofyniad cyfreithiol arnom i ymgynghori â’r cyhoedd am gyfnod o 21 diwrnod. Rydym yn rhoi hysbysiadau cyhoeddus yn y wasg leol ac yn gosod hysbysiadau yn yr ardal leol lle cynigir gweithredu’r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig. Rydym hefyd wedi creu’r dudalen hon ar ein gwefan.
Sylwer: dim ond ymatebion fyddai’n golygu bod angen i ni adolygu, addasu neu ddileu’r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig neu ran ohono sydd arnom eu hangen.
Os ydych yn cytuno â’r Gorchymyn yn union fel y mae wedi’i gynnig, nid oes angen i chi gyflwyno ymateb.
Os oes gennych chi unrhyw sylwadau neu wrthwynebiad i’r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig arfaethedig, byddem yn ddiolchgar pe baech cystal ag anfon eich adborth atom drwy:
Cwblhau'r ffurflen adborth ar-lein (gwefan allanol)
Ysgrifennu at:
Catrin Roberts,
Pennaeth Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Pobl
Cyngor Sir Ddinbych,
Ffordd Wynnstay
Rhuthun,
LL15 1YN
Y dyddiad cau ar gyfer adborth yw: 3 Mehefin 2026.
Dylech gynnwys eich enw a’ch cyfeiriad a dylid nodi y gall y Cyngor roi ystyriaeth i'r holl sylwadau sy'n cael eu derbyn yng ngŵydd y cyhoedd a gallai sylwedd unrhyw sylwadau ynghyd ag enw a chyfeiriad y person sy'n gwneud y sylwadau hynny fod ar gael i'r cyhoedd eu harchwilio.
Sut fyddwn ni'n rhoi adborth?
Byddwn yn diweddaru'r dudalen wefan hon unwaith y bydd y cyfnod ymgynghori wedi dod i ben a bod penderfyniad i ddiwygio neu weithredu'r Gorchmynion wedi'i wneud.
Adborth
Gwiriwch yn ôl am ganlyniadau
Dogfennau cysylltiedig
Mapiau'r safleodd