Priodasau a Phartneriaethau Sifil mewn Swyddfa Gofrestru
Gall seremonïau priodas sifil neu bartneriaeth sifil ddigwydd yn swyddfa gofrestru’r Rhyl neu Ruthun neu mewn Lleoliad Cymeradwy.
Newidiadau i wasanaeth Cofrestru yn Sir Ddinbych
Seremonïau:
Tra bo Cymru ar Lefel Rhybudd 4:
- Ar gyfer seremonïau Swyddfa Gofrestru, dim ond eich 2 dyst fydd yn gallu bod yn bresennol, heb unrhyw westeion eraill.
- Gall seremonïau a gynhelir mewn ystafell drwyddedig Sir Ddinbych fynd ymlaen gyda niferoedd cyfyngedig
- Ystafell Glan Y Môr: Uchafswm pobl yn yr ystafell 14
- Ystafell Bro Famau: Uchafswm pobl yn yr ystafell 19
- Ni chaniateir cynnal seremonïau mewn lleoliadau trwyddedig sydd o fewn y categori 'lletygarwch'.
- Sylwch y gallai ein holl gyngor newid heb rybudd.
Mae apwyntiadau rhybudd o briodas / partneriaeth sifil ar gael fesul achos a rhoddir blaenoriaeth yn ôl dyddiad y seremoni.
Gall unrhyw un sydd eisoes wedi archebu lle gysylltu â gwasanaeth cofrestru Sir Ddinbych drwy e-bostio: ceremonies@denbighshire.gov.uk
Y seremoni
Nid oes gan seremoni priodas sifil unrhyw gynnwys crefyddol, ond gallwch ychwanegu cyffyrddiadau unigol fel cerddoriaeth anghrefyddol a darlleniadau ychwanegol at y geiriad cyfreithiol. Gallwch hefyd gymryd fideo o’r seremoni.
Caiff Partneriaeth Sifil ei ffurfio drwy arwyddo’r atodiad partneriaeth sifil. Gall parau sy’n dymuno gwneud trefniadau ar gyfer seremoni anghrefyddol gysylltu á ni.