Ffilmio yn Nantclwyd y Dre

Mae Nantclwyd y Dre yn cynnwys tŷ a gerddi hanesyddol dymunol sy'n ddelfrydol ar gyfer cynnwys treftadaeth, ffotograffiaeth, cyfweliadau a chynyrchiadau llai sy’n chwilio am leoliad newydd ac unigryw sy’n amrywiol ac yn llawn cymeriad.

Mae Nantclwyd y Dre wedi’i leoli yng nghanol tref hanesyddol Rhuthun, ac mae’n un o’r tai tref â ffrâm bren hynaf yng Nghymru, sy’n dyddio yn ôl i 1435. Mae’r tŷ bellach yn amgueddfa hanes ryngweithiol ag ystafelloedd sydd wedi’u hadfer yn ofalus o amrywiaeth o gyfnodau hanesyddol, yn cynnwys y canol oesoedd, oes y Jacobeaid, y Stiwartiaid, y Tuduriaid, yr oes Sioraidd, oes Fictoria, yr oes Edwardaidd a’r byd cyfoes.

Tîm ffilm y tu ôl i'r llen yn defnyddio camera a meicroffon bwm i ffilmio golygfa ddrama cyfnod gyda chymeriadau mewn gwisgoedd hanesyddol.

Mae gan yr eiddo hefyd ddwy ardd sydd wedi’u cynnal a chadw’n daclus: yr ardd furiog fewnol o’r 13eg ganrif a’r ardd allanol a elwir yng Ngardd yr Arglwydd, sy’n cynnig golygfeydd hyfryd o fryniau Clwyd a Chastell Rhuthun.

Er bod y tŷ a'r gerddi yn rhestredig Gradd I, mae'r tu mewn wedi'i addurno i adlewyrchu’r cyfnodau penodol, sy’n cynnwys eitemau a dodrefn sydd wedi'u hatgynhyrchu y gellir eu newid yn rhwydd i ddarparu ar gyfer ceisiadau ffilmio.

Defnydd a argymhellir

Mae Nantclwyd y Dre yn fwyaf addas ar gyfer cynyrchiadau llai ac mae’n berffaith ar gyfer:

  • golygfeydd ar raddfa fach o’r oes o’r blaen
  • dogfennau hanesyddol
  • mewnosodiadau dramâu gwisgoedd
  • dyluniad mewnol Tuduraidd / Georgaidd / Fictoraidd
  • sesiynau tynnu lluniau at wahanol ddibenion, yn cynnwys:
    • golygyddol
    • portreadau
    • priodasau
    • tymhorol
    • ffasiwn dreftadaeth
    • byw yn yr ardd
    • nwyddau cartref ac ategolion moethus

Caniatâd i ffilmio

Bydd angen i chi gael caniatâd os ydych chi’n bwriadu ffilmio ar gyfer y teledu, ffilm neu ddrôn ar dir sy’n eiddo i’r Cyngor yn Sir Ddinbych.

Rhagor o wybodaeth, yn cynnwys sut i ofyn am ganiatâd i ffilmio ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor.

Arlwyo

Mae yrnau dŵr poeth ar gael. Dylai bwyd a diod gael eu bwyta ac yfed yn yr ardaloedd dynodedig yn unig. Ni chaniateir yfed alcohol.

Prisiau

Mae’r prisiau yn seiliedig ar anghenion prosiectau unigol a ffactorau fel natur dymhorol y safle, gofynion staffio a ffactorau trwyddedu eraill. Cysylltwch â ni i drafod eich gofynion.

Mae TAW yn daladwy ar gyfer ffilmio yn y lleoliad.

Sut i archebu

Mae’r prisiau yn seiliedig ar anghenion prosiectau unigol a ffactorau fel natur dymhorol y safle, gofynion staffio a ffactorau trwyddedu eraill. Cysylltwch â ni i drafod eich gofynion.

Cyfryngau cymdeithasol

Logo Nantclwyd y DreLogo Kids in Museums Logo yn addas i gŵn Logo Trip AdvisorLogo Historic HousesLogo Trysor Cudd 2024