Llogi’r gornel goffi yn Nantclwyd y Dre
Gyda digon o olau ac awyru, mae’r gornel goffi yn ofod hardd a chlyd sydd ar gael i’w logi ar gyfer gweithdai a sesiynau crefft i grwpiau o hyd at 10 o bobl neu seddi ar ffurf darlith ar gyfer sgyrsiau ar gyfer hyd at 15 i 20.
Mae’r cornel goffi ar gael i’w defnyddio gan grefftwyr hefyd i arddangos eu gwaith i aelodau o’r cyhoedd sy’n ymweld yn ystod y tymor agor (o Ebrill i Fedi), ar sail cyfraniad.

Nodweddion
Mae gan y Gornel Goffi:
- le i hyd at 20 o bobl
- lluniaeth ar gael
- toiledau/toiledau hygyrch
Arlwyo
Yn anffodus, ni allwn ddarparu gwasanaeth arlwyo, ond mae’n bosibl defnyddio’r gegin a’r oergell.
Prisiau
Mae gennym ni leoedd ar gael o £10 yr awr yn dibynnu ar ofynion a gallwn ni hefyd gynnig rhai lleoedd am ddim ar sail cyfraniad ar adegau penodol.
Sut i archebu
Os hoffech chi archebu’r gofod, trafod eich gofynion, neu drefnu ymweliad i weld a oes gennym ni le a fyddai’n addas i chi, cysylltwch â ni.
Cyfryngau cymdeithasol