Nadolig trwy’r oesoedd yn Nantclwyd y Dre
O ddathliadau canoloesol gwladaidd i’r flwyddyn y cafodd y Nadolig ei wahardd, ac o draddodiadau mawreddog oes Fictoria i ddathliadau cynnil cyfnod y rhyfel, dewch i brofi mwy na 500 mlynedd o’r Nadolig dan un to yma yng ngerddi hanesyddol Nantclwyd y Dre! Gyda phob ystafell wedi’i haddurno i adlewyrchu’r cyfnod priodol, gwahoddir ymwelwyr i ddarganfod hanes y Nadolig a sut byddai cyn-drigolion y tŷ wedi dathlu.

Cynhelir ein dathliad blynyddol o Nadolig y gorffennol dros y ddau benwythnos cyntaf ym mis Rhagfyr:
- Dydd Sadwrn 6 Rhagfyr a dydd Sul 7 Rhagfyr, 10am tan 4:30pm (mynediad olaf am 3:30pm)
- Dydd Sadwrn 13 Rhagfyr a dydd Sul 14 Rhagfyr, 10am tan 4:30pm (mynediad olaf am 3:30pm)
Ar gyfer pwy mae’r digwyddiad?
Mae’r digwyddiad Nadoligaidd ar gyfer unrhyw un sy’n awyddus i fynd i hwyl yr ŵyl a dysgu am hanes y Nadolig mewn lleoliad unigryw a chyfareddol gyda chyfoeth o hanes. Mae’n berffaith ar gyfer ymwelwyr iau a hŷn fel ei gilydd, gyda llwybrau ac arddangosfeydd rhyngweithiol sy’n addas i bob oed. Mae’r Nadolig yn gyfnod hudol i ymweld â’r tŷ, ac yn ddiwrnod Nadoligaidd perffaith gyda theulu a ffrindiau.
Sut i gymryd rhan
Nid oes angen archebu lle i gael mynediad cyffredinol - ymwelwch â ni yn ystod ein horiau agor a byddwch yn barod am siwrnai galonogol a hiraethus drwy Nadolig y gorffennol!
Faint mae’n ei gostio?
Gweler y prisiau mynediad isod:
Mynediad cyffredinol
Prisiau mynediad cyffredinol
| Math o docyn | Pris |
| Pris |
£9.00 |
| Plentyn rhwng 5 ac 16 oed |
£7.00 |
| Plentyn o dan 5 oed |
Am ddim |
| Teulu (2 oedolyn a hyd at 3 o blant) |
£25.00 |
| Teulu (1 oedolyn a hyd at 3 o blant) |
£16.00 |
| 1 gofalwr yn dod gydag ymwelydd anabl |
Am ddim |
Prisiau grŵp
Dysgwch fwy am ymweliadau grŵp
Prisiau grŵp
| Prisiau grŵp | Prisiau grŵp |
| Grŵp o o leiaf 15 o bobl yn ystod oriau agor yr haf |
£7.50 yr un |
| Grŵp o o leiaf 15 o bobl pan fyddwn wedi cau dros y gaeaf |
£7.50 yr un, yn ogystal â £50 ychwanegol fesul grŵp |
Ymweliadau ysgolion
Dysgwch fwy am ymweliadau ysgolion
Prisiau ymweliadau ysgolion
| Prisiau ymweliadau ysgolion | Pris |
| Grwpiau ysgol yn ymweld yn ystod oriau agor yr haf |
Disgyblion: £5 yr un Athrawon: am ddim |
| Grwpiau ysgol yn ymweld pan fyddwn wedi cau dros y gaeaf |
Disgyblion: £5 yr un Athrawon: am ddim £50 ychwanegol fesul grŵp |
Cysylltu â ni
Ar gyfer pob ymholiad, ffoniwch 01824 708281 neu anfonwch e-bost.
Cyfryngau cymdeithasol