Yn cynnal digwyddiad yn Sir Ddinbych
Os rydych yn cynnal digwyddiad yn Sir Ddinbych, hysbyswch ni am ddigwyddiad ar lein.
Deddf Terfysgaeth (Amddiffyn Eiddo) 2025 (Cyfraith Martyn)
Mae disgwyl i Ddeddf Terfysgaeth (Amddiffyn Eiddo) 2025, a elwir hefyd yn Gyfraith Martyn, ddod i rym yn 2027, a bydd yn ei gwneud yn ofynnol i ddigwyddiadau a safleoedd cyhoeddus penodol fod yn barod i gadw pobl yn ddiogel pe bai ymosodiad terfysgol.
Mae ProtectUK yn darparu rhagor o wybodaeth am Gyfraith Martyn, gan gynnwys beth yw gofynion y Ddeddf, ac mae'n darparu cyngor ac arweiniad rhad ac am ddim, er mwyn helpu busnesau a chymunedau i wella eu hymateb i risg o derfysgaeth.
Ewch draw i wefan ProtectUK (gwefan allanol)
Amhariad ar ddigwyddiadau
Mae’n bosibl y bydd amhariad ar ddigwyddiadau mewn rhai ardaloedd oherwydd y gwaith sy’n cael ei wneud. Dewiswch ardal i gael rhagor o fanylion:
Rhuthun
Mae'n bosibl na fydd modd i rai digwyddiadau yn Rhuthun gael eu cynnal oherwydd gwaith ar brosiectau Rownd 2 Cronfa Adfywio Leol a ariennir gan Lywodraeth y DU.
Os ydych chi’n trefnu digwyddiad yn Rhuthun, ar ôl rhoi gwybod i ni, mae’n bosibl y bydd angen i ni gysylltu â chi i drafod a fydd modd i’r digwyddiad gael ei gynnal.
Gwaith sy’n effeithio ar ddigwyddiadau yn Rhuthun
Oherwydd gwaith prosiect sy’n digwydd yn Rhuthun:
- mae Eglwys Sant Pedr ar gau ar hyn o bryd
- mae mynediad ar gael i’r Elusendai ond bydd rhywfaint o amhariad
Rhagor o wybodaeth
Rhagor o wybodaeth am brosiectau Rownd 2 Cronfa Adfywio Leol.
Hysbyswch ni am ddigwyddiad arlein
Sut allwn ni helpu
Gallwn gefnogi eich digwyddiad drwy helpu i’w hyrwyddo ar draws ein safleoedd cyfryngau cymdeithasol a gwefan Gogledd Ddwyrain Cymru.
Rydym wedi llunio pecyn gwaith digwyddiadau i helpu trefnwyr digwyddiadau yn y camau o gynllunio digwyddiad.
Pam cynnal digwyddiad yn Sir Ddinbych?
Dyma ein 5 prif reswm pam ddylech gynnal eich digwyddiad yn Sir Ddinbych;
- Lleoliadau rhagorol ar draws y sir sy'n gallu cynnal unrhyw beth o gyngherddau cerddorol, i ddigwyddiadau chwaraeon awyr agored a dan do a sioeau awyr cyffrous
- Cysylltiadau cludiant i rai o'r ardaloedd adeiledig mwyaf ym Mhrydain, gan gynnwys Manceinion Fwyaf, Glannau Mersi a Birmingham
- Ystod eang o adnoddau naturiol, gan gynnwys traethau godidog yn y Gogledd ac un o ddim ond pum ardal o harddwch naturiol eithriadol yng Nghymru, Bryniau Clwyd ac AHNE Dyffryn Dyfrdwy a Safle Treftadaeth y Byd UNESCO Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte sy’n 18 cilomedr o hyd
- Rhaglen o ddigwyddiadau sy’n gadarn ac sy’n datblygu gan annog economi’r ardal gyda chymorth tîm marchnata a digwyddiadau o fewn y Cyngor
- Ein gweledigaeth yw, erbyn 2020, bydd gan Sir Ddinbych raglen o ddigwyddiadau wedi’u rheoli'n dda a'i lledaenu ar draws y tymhorau a lleoliadau yn Sir Ddinbych, sy'n cyfrannu at yr economi leol, gan greu gwariant ychwanegol gan ymwelwyr a chyfleoedd ychwanegol ar gyfer cyflogaeth yn y sectorau ategol
Dogfennau cysylltiedig