Gwasanaeth Cyfarpar Cymunedol Integredig (CESI)

Mae’r Gwasanaeth Cyfarpar Cymunedol Integredig (CESI) yn bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Ddinbych a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC). Mae’n darparu cyfarpar i bobl o bob oedran i'w helpu i fyw eu bywydau i'r eithaf a chynnal eu hiechyd a'u hannibyniaeth. Mae hyn yn amrywio o gymhorthion syml ar gyfer bywyd bob dydd i gyfarpar mwy cymhleth sy'n helpu pobl i aros yn eu cartrefi yn hirach.

Cwestiynau cyffredin

Sut allaf gael cyfarpar i fy helpu yn fy mywyd bob dydd?

Nid ydym yn derbyn ceisiadau am gyfarpar yn uniongyrchol gan aelodau o’r cyhoedd. Dim ond staff awdurdodedig Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy’n gallu trefnu cyflenwadau, felly cysylltwch â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol fel eich nyrs ardal, therapydd galwedigaethol neu ffisiotherapydd.

Nid oes unrhyw gyfyngiadau oedran o ran defnyddio'r gwasanaeth integredig cyfarpar cymunedol, gallwch gysylltu â’ch gweithiwr iechyd neu ofal cymdeithasol proffesiynol lleol ym mhob achos neu ein Un Pwynt Mynediad, a fydd yn eich helpu i asesu a nodi’ch anghenion.

Sut allaf ganfod mwy am y gwasanaeth?

Fel arfer mae pobl yn cael eu hatgyfeirio gan weithiwr cymdeithasol neu weithiwr iechyd proffesiynol. Mae’n bosibl i chi atgyfeirio eich hun am Deleofal.

Ydych chi’n casglu cadeiriau olwyn?

Nid ydym yn casglu cadeiriau olwyn gan eu bod yn cael eu cyflenwi mewn ffordd wahanol, os oes gennych un nad oes ei hangen arnoch bellach, cysylltwch â Ross Care ar 01352 744640.

Sut allaf ddychwelyd cyfarpar?

Mae'r holl gyfarpar yn y gymuned yn cael ei gasglu, ei lanhau a’i asesu i’w ailddefnyddio. Os oes gennych unrhyw gyfarpar nad oes ei angen arnoch bellach, ffoniwch 01745 344675 neu anfonwch e-bost at cesi@denbighshire.gov.uk a gallwn drefnu i’w gasglu ar amser sy’n gyfleus i chi.

Cefndir y Gwasanaeth Cyfarpar Cymunedol Integredig (CESI)

Nod y bartneriaeth yw gwneud trefniadau lleol yn y modd mwyaf effeithiol i gyflenwi cyfarpar cymunedol a sicrhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio yn y modd mwyaf cost effeithiol ledled Sir Ddinbych.

Mae cyfanswm o 11 gwasanaeth ar gael ledled Cymru. Mae CESI yn un o’r tri gwasanaeth cyfarpar cymunedol sy’n cwmpasu gogledd Cymru; y lleill yw Gogledd Ddwyrain Cymru (Ardaloedd Awdurdod Lleol Sir Y Fflint a Wrecsam) a Gogledd Orllewin Cymru (Ardaloedd Awdurdod Lleol Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy).

Mae gan CESI restr cynhwysfawr o gyfarpar safonol ac arbenigol sydd ar gael i bob rhagnodwr cymeradwy; sef ymarferwyr gofal cymdeithasol, therapyddion galwedigaethol a gweithwyr proffesiynol o’r gwasanaethau cymdeithasol neu iechyd fel arfer. Gellir cyflenwi’r rhan fwyaf o’r stoc cyn pen 5 diwrnod ar ôl gwneud cais ond gall archebion gael eu cyflenwi ar frys ambell waith, er enghraifft, cyfarpar i hwyluso rhyddhad o’r ysbyty neu i liniaru risg uniongyrchol i iechyd a diogelwch y person neu eu gofalwyr.

Cysylltwch â CESI

Ffôn: 01745 344675
E-bost: cesi@denbighshire.gov.uk

Gwasanaeth Cyfarpar Cymunedol Integredig (CESI)
Unedau A6 - A9
Ystad Pinfold
Ffordd Derwen
Y Rhyl
LL18 2YR

Os ydych yn byw y tu allan i Sir Ddinbych cysylltwch ag un o’r gwasanaethau eraill:

  • Wrecsam / Sir y Fflint: 01244 527100
  • Conwy / Gwynedd (Ysbyty Bryn y Neuadd): 03000 852878
  • Ynys Môn: 01407 883314