Mae Teleofal yn fath penodol o dechnoleg gynorthwyol sy’n defnyddio synwyryddion a larymau i gadw pobl yn ddiogel yn eu cartrefi tra’n cynnal eu hannibyniaeth. Gall Teleofal gynorthwyo i leihau rhai o’r risgiau cyffredin megis syrthio ac methu codi neu adael tapiau’n rhedeg.
Gall Teleofal roi mwy o hyder i chi ynghylch aros gartref ar eich pen eich hun. Os ydych yn ofalwr gall eich sicrhau bod y person rydych yn gofalu amdano yn gallu galw am gymorth, a chael cefnogaeth pan nad ydych ar gael.
Sut i archebu offer Teleofal
Gallwch ganfod pa offer sy’n addas ar gyfer eich anghenion chi neu rywun arall, ac archebu drwy ddefnyddio'r ffurflen atgyfeirio ar-lein.
Defnyddio ein ffurflen atgyfeirio ar-lein ar gyfer offer Teleofal
Neu, gallwch ein ffonio ar 0300 456 1000
Lleoliad
Community Equipment Integrated Service
Units A6 - A9
Pinfold Estate
Ffordd Derwen
Y Rhyl
LL18 2YR
Ffoniwch 01745 334245 i wneud apwyntiad.
Faint fydd yn ei gostio?
Y gost yw £17 fesul mis calendr. Dyma’r taliad safonol am ein gwasanaeth Teleofal fesul mis, nid oes unrhyw daliadau gosod neu gynnal a chadw.
Os ydych chi’n derbyn budd-dal tai, efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn y gwasanaeth Teleofal yn rhad ac am ddim.
Sut mae'n gweithio?
Mae angen llinell ffôn sy’n gweithio gyda soced pŵer trydan gerllaw.
Gall y synwyryddion sydd wedi eu gosod nodi os oes problem yn y tŷ fel:
- croniad o nwy wedi dianc o bopty
- llifogydd o dapiau sy’n dal i redeg
- rhan o'r cartref yn rhy boeth (er enghraifft, os yw'r popty wedi’i adael ymlaen).
Gall hefyd ddangos os oes gan berson broblem, fel:
- wedi syrthio ac yn methu cael cymorth, neu
- methu codi o'r gwely oherwydd salwch
Beth sy'n digwydd pan fydd y larwm yn canu?
Pan fydd larwm yn dechrau canu, naill ai oherwydd synhwyrydd, neu drwy wasgu eich larwm gwddf personol, byddwch yn cael eich cysylltu’n gyflym â staff sydd wedi'u hyfforddi yn y ganolfan fonitro.
Bydd gan y staff yr wybodaeth a roddwyd gennych pan osodwyd yr offer. Byddant yn gwybod eich enw a'ch amgylchiadau cyffredinol yn syth. Gallant siarad â chi yn uniongyrchol drwy uchelseinydd ar yr uned Teleofal i gael gwybod beth rydych ei angen ac i roi gwybod i chi bod cymorth ar ei ffordd.
Unwaith y bydd y gweithredwr wedi sefydlu pa gymorth rydych ei angen, byddant yn trefnu i rywun ddod i’ch helpu. Gallai hwn fod yn aelod o'r teulu, cymydog, meddyg neu un o'r gwasanaethau brys.
Os hoffech chi fwy o wybodaeth neu gyngor, gallwch ymweld â Phwynt Siarad neu gysylltu â’r Pwynt Mynediad Sengl.