Deall gwahaniaethau synhwyraidd 

Mae pob plentyn yn gweld y byd drwy ei synhwyrau. Gall yr hyn y maent yn ei weld, ei glywed a’i deimlo fod yn ormod i rai plant, ond mae angen symudiad, sŵn neu gyffyrddiad ychwanegol ar eraill i deimlo’n dawel, effro a digynnwrf.

Darlun o blentyn yn eistedd yn dawel yn y canol, wedi'i amgylchynu gan eiconau'n dangos y wyth synnwyr, symudiad, a theimladau cudd

Gall deall anghenion synhwyraidd:

  • helpu i leihau straen
  • helpu plant i aros yn ddigynnwrf
  • cryfhau perthnasoedd.

Cymorth a chyngor

Mae plant yn aml yn cyfathrebu anesmwythdra synhwyraidd drwy ymddygiad. Nid yw gwahaniaethau synhwyraidd yn ymddygiad drwg. Yn aml maent yn ffordd plentyn o gyfathrebu bod ei system nerfol yn ei chael yn anodd.

Yn hytrach na gofyn:

‘Beth sy’n bod gyda’r plentyn?’

Gofynnwch:

‘Beth allai’r plentyn fod yn ei brofi?’

Gorlwytho synhwyraidd

Mae gorlwytho synhwyraidd yn digwydd pan fo’r ymennydd yn derbyn mwy o wybodaeth synhwyraidd nag y gall ei phrosesu’n gyfforddus.

Gall achos o orlwytho synhwyraidd mewn plant ymddangos fel:

  • strancio
  • tynnu’n ôl neu rewi
  • crio neu orbryder
  • ymddygiad ymosodol neu osgoi
  • gorchuddio’r clustiau neu lygaid
  • rhedeg i ffwrdd
  • trafferth canolbwyntio

Strategaethau i helpu i leihau gorlwytho synhwyraidd

Dyma rai strategaethau defnyddiol pan fo plentyn neu unigolyn ifanc yn profi gorlwytho synhwyraidd:

  • gostwng lefelau sŵn
  • defnyddio goleuadau tawel
  • creu trefn ddisgwyliadwy
  • paratoi plant ar gyfer newidiadau
  • creu mannau tawel

Mewnbwn synhwyraidd ychwanegol

Gall fod angen mewnbwn synhwyraidd ychwanegol ar rai plant i’w helpu i deimlo’n dawel a chanolbwyntio.

Egwyl symud

Gall llawer o blant reoli gwahaniaethau synhwyraidd drwy symudiad fel:

  • cerdded
  • neidio
  • ymestyn
  • cyrsiau rhwystrau
  • gweithgareddau gwthio neu gario

Dilynwch arweiniad y plentyn

Gellwch helpu i reoli gwahaniaethau synhwyraidd drwy ddilyn arweiniad y plentyn. Sylwch:

  • beth sy’n ei helpu i deimlo’n dawel
  • pa amgylcheddau sy’n anodd i’r plentyn
  • pa fewnbwn synhwyraidd y mae ei eisiau neu mae’n ei osgoi

Gweithdy cefnogi gwahaniaethau synhwyraidd trwy weithgareddau

Gellwch chithau ddysgu ac ymarfer strategaethau hefyd drwy ymuno â’n gweithdy cefnogi gwahaniaethau synhwyraidd trwy weithgareddau.

Dysgwch fwy am y gweithdy yma, yn cynnwys sut i archebu lle.

Gwyliwch ein fideo

Mae ein fideo ymwybyddiaeth synhwyraidd yn dangos sut mae synhwyrau plentyn yn effeithio ar y ffordd mae’n ymddwyn a theimlo. Mae’n egluro:

  • sut mae’r wyth synnwyr (gan gynnwys symudiad ac ymwybyddiaeth o’r corff) yn effeithio ar blentyn
  • pam mae ymddygiad sy’n herio yn aml yn anhawster synhwyraidd
  • ffyrdd ymarferol o gefnogi plant pan fônt yn teimlo wedi eu llethu
  • sut i fod yn ‘dditectif ymddygiad’ i ddeall beth mae plentyn yn ei gyfathrebu

Gwyliwch y fideo ‘Ymwybyddiaeth Synhwyraidd’ ar YouTube (dolen allanol)

Cefnogaeth leol

Gall teuluoedd yng Nghonwy a Sir Ddinbych siarad â gweithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â chefnogi eu plentyn, gan gynnwys:

  • Ysgolion a Chydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY)
  • Ymwelwyr Iechyd
  • Nyrsys ysgol
  • Gwasanaethau meddyg teulu
  • Cymorth cynnar a gwasanaethau cymorth i deuluoedd
  • Ymarferwyr Gwasanaeth Teuluoedd Integredig Lleol

Adnoddau synhwyraidd

Gellwch gael mwy o wybodaeth ac arweiniad ar wahaniaethau synhwyraidd drwy’r sefydliadau a’r gwasanaethau canlynol:

 


Mae’r Tîm Integredig Teuluoedd Lleol yn dîm aml-asiantaeth, a ariennir gan Gydweithfa Gwella Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Lles Gogledd Cymru.

Logo Cydweithredfa Gwella Gofal Cymdeithasol a Lles Gogledd Cymru Logo Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi CadwaladrLogo Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Logo Cyngor Sir Ddinbych