Cynllun Datblygu Lleol Newydd: Safleoedd Posib’

Mae’r cyfle i gyflwyno safleoedd ymgeisiol i’w hystyried yn lle’r Cynllun Datblygu Lleol Sir Ddinbych (CDLl) 2018 - 2033  bellach wedi cau. Bydd unrhyw un sy’n dymuno i’w safle i gael ei ystyried ac sydd heb gael ei gyflwyno eto, angen cyflwyno cynrychiolaeth mewn da bryd i’r cyfnod ymgynghori Dogfen I'w Harchwilio Gan Y Cyhoedd. Bydd hynny’n debygol o gymryd lle ddiwedd 2023.

Rhwng 6 Awst a 26 Tachwedd 2018, rhoddodd y Cyngor wadd i bartïon gyda diddordeb gyflwyno tir ar gyfer cael ei ystyried i'w gynnwys yng Nghynllun Datblygu Lleol 2018- 2033 (CDLl) nesaf Sir Ddinbych. Mae angen safleoedd posib’ er mwyn mynd i’r afael â’r galw am ystod o ddefnydd tir gan gynnwys tai / preswyl, gwaith, manwerthu, hamdden ac ati.

Derbyniodd y Cyngor gyfanswm o 203 o geisiadau; yn canolbwyntio ar ddefnydd preswyl yn bennaf. Derbyniodd pob safle posib’ gyfeirnod safle unigol ac maent wedi’u rhestr fesul anheddiad ar y Gofrestr Safle Posib’. Ni ddylai’r ffaith bod safle posib’ wedi cael ei gynnwys ar y gofrestr, gael ei ddehongli fel ymrwymiad gan y Cyngor i gyflwyno’r safle hwnnw ymlaen i’r CDLl nesaf.

Gellir dod o hyd i fanylion am gynlluniau safle a’r gwaith asesiad cychwynnol sydd wedi’i gyflawni gan y Cyngor yma.

Cyflwyniad i'r Cofrestr Safleoedd Posibl (PDF, 90KB)

Isod gallwch ddod o hyd i restr o’r holl aneddiadau lle mae’r safleoedd wedi cael eu derbyn. Bydd clicio ar enw'r anheddiad yn agor dogfen newydd sy'n dangos manylion y safle, gan gynnwys map lleoliad.   

Sylwch, os nad ellir dod o hyd i anheddiad ar y rhestr isod, golyga hyn nad yw’r Cyngor wedi derbyn unrhyw geisiadau o’r ardal benodol hon.