Cynllun Datblygu Lleol Newydd - Trosolwg

Mae’r system gynllunio yng Nghymru yn cael ei harwain gan gynlluniau, sy’n golygu bod cynigion cynllunio, yn cynnwys ceisiadau ar gyfer newid defnydd ac apeliadau yn cael eu hasesu yn erbyn y polisi cynllunio cenedlaethol a lleol. Mae polisi cenedlaethol yn nodi gofynion i Awdurdodau Lleol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ddatblygu Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLlau). Mae Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 yn ei gwneud yn ofynnol i’r CDLlau gael eu monitro bob blwyddyn a’u hadolygu bob pedair blynedd.

Ar hyn o bryd caiff cynigion cynllunio eu hasesu yn erbyn Cymru’r Dyfodol - Y Cynllun Cenedlaethol 2040 a Chynllun Datblygu Lleol Cyngor Sir Ddinbych 2006 i 2021 sydd wedi cael ei fabwysiadu.

Mae Sir Ddinbych yn paratoi CDLl newydd. Roedd Adroddiad Adolygu y CDLl cyfredol yn argymell paratoi CDLl arall. Mae’r CDLl 2006 i 2021 presennol a fabwysiadwyd yn parhau i arwain penderfyniadau cynllunio nes y caiff CDLl newydd ei fabwysiadu. Mae amserlen i gwblhau’r CDLl newydd wedi’i chytuno gyda Llywodraeth Cymru ac mae hon wedi’i chynnwys yn y Cytundeb Cyflawni.

Camau paratoi’r Cynllun sydd wedi’u cwblhau hyd yma

Adroddiad Adolygu CDLl 2006-2021

Cymeradwyodd Cyngor Sir Ddinbych Adroddiad Adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru mewn cyfarfod ar 5 Rhagfyr 2017. Mae’r Adroddiad Adolygu’n rhoi asesiad o berfformiad y CDLl cyfredol ac yn pwysleisio’r angen am gynllun newydd. 

Cynllun Datblygu Lleol Newydd: Addroddiad ar adolygiad (PDF, 4.68MB)

Cytundeb Cyflawni

Cytunodd Llywodraeth Cymru ar y Cytundeb Cyflawni, a fydd yn arwain y broses o lunio Cynllun Datblygu Lleol newydd, ar 22 Mai 2018. 

Cynllun Datblygu Lleol Newydd Cytundeb cyflawni (PDF, 816KB)

Cytunwyd ar Gytundeb Cyflawni diwygiedig gan Lywodraeth Cymru ar 12 Rhagfyr 2022.

Cynllun Datblygu Lleol Newydd Sir Ddinbych 2018 i 2033: Cytundeb Cyflawni Diwygiedig Rhagfyr 2022 (PDF, 2MB)

Cofrestr Safleoedd Posib’

Gwahoddwyd cynigion am safleoedd gan berchnogion tir, datblygwyr a’r cyhoedd rhwng 6 Awst a 26 Tachwedd 2018. Yn sgil hyn, cyflwynwyd 203 o safleoedd i’r Cyngor. Cafodd 36 safle posibl arall eu cyflwyno yn ystod cam ymgynghori ar fersiwn ddrafft o Strategaeth a ffefrir ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol newydd 2018 i 2033.

Mae’r Gofrestr o Safleoedd Posib’ yn cynnwys mapiau safleoedd unigol  o’r safleoedd a gyflwynwyd. Mae’r mapiau unigol wedi’u grwpio i’r anheddiad agosaf a gallwch eu gweld trwy glicio ar Safleoedd Posib’.

Y Strategaeth a Ffefrir (Cyn i’r cyhoedd ei harchwilio)

Mae’r strategaeth lefel uchel a’r polisïau allweddol yn y Strategaeth a Ffefrir. Mae’n nodi’r lefel o dwf a ffefrir o ran tai a chyflogaeth a sut y bydd y twf hwnnw’n cael ei wasgaru ar draws Sir Ddinbych. Mae polisïau allweddol wedi’u dylunio i arwain datblygiadau a sicrhau bod anghenion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol y sir yn cael eu diwallu.

Cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y Strategaeth a ffefrir rhwng 8 Gorffennaf 2019 a 30 Awst 2019.  Cafodd y sylwadau a dderbyniwyd eu hadolygu ac fe baratowyd adroddiad ymgynghori gyda’r diwygiadau a awgrymwyd. Cafodd y Strategaeth a ffefrir ei gymeradwyo gan y Cyngor ar 9 Mai 2023.

Mae'r dogfennau cyn-adneuo a thystiolaeth gefndirol ar gael i'w gweld trwy glicio ar Y Strategaeth a Ffefrir / Dogfen cyn i’r cyhoedd ei harchwilio.

Cam archwilio gan y cyhoedd

Mae’r Cynllun i’w archwilio gan y cyhoedd yn cynnwys manylion y strategaeth, polisïau a dyraniadau tir.  Dylid darllen y Cynllun yn gyflawn a dylai fod yn gadarn a gallu cael ei fabwysiadu fel CDLl 2018 i 2033.

Er mwyn bod yn gadarn, rhaid i’w gynnwys gael ei gefnogi gan dystiolaeth a rhaid iddo fod yn unol â pholisi cenedlaethol presennol.  Rhaid iddo hefyd ddangos yn glir y gellir darparu unrhyw dir sy’n cael ei ddyrannu i’w ddatblygu erbyn 2033, ei fod yn ariannol hyfyw a’i fod yn cael ei gefnogi gan isadeiledd wedi’i ariannu.

Mae’r Cynllun i’w archwilio gan y cyhoedd wrthi'n cael ei lunio ac fe fydd y dystiolaeth sydd wedi cael ei chasglu ar gael maes o law.