Caniatâd cynllunio

Mae nifer o ganllawiau a theclynnau ar-lein i’ch helpu i ganfod a ydych angen ymgeisio am ganiatâd cynllunio ai peidio. Cofiwch nad ydynt yn ffynonellau terfynol o wybodaeth gyfreithiol a dylech gysylltu â ni os nad ydych yn sicr ynglŷn â mater cynllunio. 

Oes gen i angen caniatâd?

Oherwydd cymhlethdod y ddeddfwriaeth, ni all staff cynllunio roi cyngor anffurfiol ar yr angen am ganiatâd cynllunio.

Mewn rhai achosion nid ydych angen caniatâd; gelwir hyn yn ddatblygiad a ganiateir. Gallwch ddefnyddio’r canllaw tŷ pâr rhyngweithiol neu archwilio’r teras rhyngweithiol ar wefan y Porth Cynllunio (gwefan allanol), er mwyn darganfod pa un ai a oes angen ichi ymgeisio ai peidio.

Darganfod sut i geisio am ganiatâd cynllunio.

Tystysgrif datblygiad cyfreithlon

Os nad ydych chi’n siŵr os oes arnoch chi angen caniatâd cynllunio ar gyfer prosiect, rydym ni’n argymell eich bod yn gwneud cais am Dystysgrif Datblygiad Cyfreithlon. Mae’r dystysgrif yn wahanol iawn i ganiatâd cynllunio a gellir ei defnyddio i ganfod a oes angen caniatâd cynllunio arnoch chi.

Gallwch wneud cais am y dystysgrif ar-lein neu gallwch lawrlwytho ffurflen o’r Porth Cynllunio (gwefan allanol). Gellir defnyddio Tystysgrif Datblygiad Cyfreithlon i gadarnhau bod defnydd neu weithgaredd yr eiddo yn gyfreithlon o ran dibenion cynllunio.

Eich cyfrifoldebau

Cyfrifoldeb perchennog tir neu eiddo yw sicrhau y cydymffurfir â’r caniatâd cynllunio a’r rheoliadau adeiladu perthnasol; gall methu â gwneud hyn arwain at ddwyn y person hwnnw’n atebol i weithred adfer. Gallwch ddarganfod mwy am eich cyfrifoldebau ar wefan y Porth Cynllunio (gwefan allanol).

Canllawiau defnyddiol

Isod mae rhestr o ganllawiau ar gyfer prosiectau cyffredin yn y cartref (gwefan allanol);

Caniatadau cynllunio eraill

Gyda rhai prosiectau, hyd yn oed os oes gennych chi hawliau datblygu a ganiateir, caniatâd cynllunio, cydsyniad ardal gadwraeth neu gydsyniad adeilad rhestredig, mae’n dal yn bosib y bydd arnoch angen caniatâd ychwanegol. 

Rydym yn cymeradwyo eich bod yn gwirio’r canlynol cyn i chi ddechrau ar waith:

  • Henebion
  • Cyfamodau a hawliau preifat
  • Safleoedd trwyddedig
  • Y Wal Gydrannol
  • Rhywogaethau a ddiogelir 
  • Hawliau tramwy

Gallwch fynd i’r portholion cynllunio caniatâd arall (gwefan allanol) neu gysylltu â ni i gael cyngor pellach.