Chwiliadau'r awdurdod lleol

Pan fyddwch yn prynu eiddo neu ddarn o dir, bydd eich cyfreithiwr yn gofyn am chwiliad awdurdod lleol i weld a oes yna unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol sy’n effeithio ar y tir neu’r eiddo. Mae hyn i wneud yn siŵr eich bod yn ymwybodol o unrhyw faterion lleol fel na fydd yna unrhyw beth annisgwyl cudd yn codi.

Mathau o chwiliadau a ddarperir gan y cyngor

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cynnig y mathau canlynol o chwilio:

  • CON29R
  • CON29O

Nid ydym yn cynnig copïau o’r Gofrestr Pridiannau Tir Lleol mwyach. Mae’r gofrestr nawr yn cael ei darparu gan Gofrestrfa Tir Ei Fawrhydi.

Chwilio am Bridiannau Tir Lleol ar GOV.UK (gwefan allanol)

Sut i gyflwyno cais i chwilio

Gellir cyflwyno ceisiadau i chwilio CON29R a CON290 i ni ar-lein a gellir talu amdanynt un ai trwy gyfrif neu gerdyn debyd / credyd.

Cyflwyno chwiliad’r awdurdod lleol ar-lein

Cynlluniau

Wrth gyflwyno cais i chwilio mae’n rhaid i chi gyflwyno cynllun lleoliad A4 / A3 ar sail yr Arolwg Ordnans gan amlinellu cwrtil yr eiddo/tir y mae angen ei chwilio mewn coch. Marciwch h.y. lliwiwch / croeslinellwch unrhyw ffyrdd sydd wedi’u rhestru ym Mlwch C ar y cynllun.

Taliadau (yn cynnwys TAW)

  • CON29R (eiddo preswyl): £150.00
  • CON29R (eiddo masnachol):  £150.00
  • CON29O (C.4 i 21): £12.00 fesul cwestiwn
  • CON290 (C.22): £30.00
  • Cost fesul parsel ychwanegol: £18.00

Amseroedd ymateb

Rydym yn anelu at ddychwelyd canlyniadau chwilio o fewn 5 diwrnod gwaith.

Nid ydym yn cynnig gwasanaeth chwilio brys ar hyn o bryd ond dylech gysylltu os yw eich cais penodol yn un brys.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am gyflwyno cais CON29 neu am ganlyniad chwilio yr ydych wedi’i gael, cysylltwch â ni naill ai trwy:

Oriau agor arferol ein swyddfa yw:

Dydd Llun i ddydd Gwener 9am i 4pm.

Ffyrdd eraill o chwilio

Gallwch hefyd gyflwyno chwiliad ar-lein drwy’r Gwasanaeth Gwybodaeth Tir Cenedlaethol (NLIS) neu drwy ‘TM Official Search Services’.