Siarter cydymffurfiaeth cynllunio: cyngor i rai y mae honiad yn eu herbyn

Ewch yn syth i:

Sut i ymateb i honiad gan y Cyngor

Dylai’r rhai y mae’r Cyngor yn eu cyhuddo o wneud gwaith heb ei awdurdodi ddarllen yr ohebiaeth maent yn ei derbyn yn fanwl. Bydd unrhyw ohebiaeth o’r fath yn nodi’n ofalus beth yw safbwynt y Cyngor ac yn cynghori beth i’w wneud nesaf. Bydd yn nodi pa ddulliau o gamau adfer sydd ar gael ac, os yw hynny’n berthnasol, y cosbau am beidio â chydymffurfio. O ystyried y costau sydd ynghlwm, efallai y bydd y Cyngor yn gwrthod rhoi mwy o gyngor na hyn, yn enwedig pe bai ffi am ddarparu cyngor o’r fath fel arfer i’r cyhoedd (fel sy’n wir am gyngor cyn ymgeisio, er enghraifft).

Yn sgil hyn uchod, cynghorir rhai y mae honiad yn eu herbyn i geisio cymorth gan ymgynghorydd cynllunio os oes amheuaeth ynghylch eu rhwymedigaethau. Mae rhestr o asiantau yn yr ardal ar gael. Fel arall, mae Cymorth Cynllunio Cymru (gwefan allanol), sefydliad elusennol sy’n helpu unigolion cymwys i gymryd rhan yn fwy effeithiol yn y system gynllunio, yn darparu gwasanaethau ymgynghorol, gan gynnwys llinell gymorth.

Yn ôl i frig y dudalen

Hysbysiadau ffurfiol

Mae nifer o hysbysiadau ffurfiol y mae gan y Cyngor rym i’w cyflwyno mewn ymateb i achos honedig o dorri rheolaeth gynllunio. Nid oes unrhyw rwymedigaeth ar y Cyngor i wneud ymdrechion anffurfiol i ddatrys achos honedig cyn cyflwyno hysbysiad ffurfiol.

Mae gwahanol swyddogaeth i bob math o hysbysiad. Mae iddynt hefyd wahanol gosbau am ddiffyg cydymffurfio. Mae’r rhain yn amrywio gan ddibynnu ar yr hysbysiad a roddir, a byddant wedi’u nodi ar yr hysbysiad neu atodiad iddo. Maent gan amlaf ar ffurf un neu fwy o’r canlynol:

  • erlyniad, a allai arwain at ddirwy
  • y Cyngor yn gwneud y gwaith sydd ei angen yn ôl yr hysbysiad gyda chamau gweithredu yn y Llys Sirol er mwyn adennill yr holl gostau o ganlyniad
  • y Cyngor yn gwneud y gwaith ac yna’n cofrestru ffi ar yr eiddo gyda'r Gofrestrfa Dir y byddai modd ei hadennill pe bai'r eiddo’n cael ei werthu

Mae posib’ apelio yn erbyn rhai hysbysiadau. Os oes gan un sy’n derbyn hysbysiad yr hawl hon i apelio, bydd manylion ynghylch gwneud hynny wedi’u hatodi i’r hysbysiad. Bydd mwy o fanylion ynghylch ar ba sail y gellir apelio hefyd wedi’u darparu.

Yn ôl i frig y dudalen

Hysbysiadau Gorfodi

Mae Adran 172 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yn rhoi pŵer i’r Cyngor gyflwyno Hysbysiad Gorfodi sy’n ei gwneud yn ofynnol adfer achos honedig o dorri rheolaeth gynllunio fel mae’r Ddeddf yn ei ddiffinio (gweler beth yw torri rheolaeth gynllunio?). Bydd y camau adferol sydd eu hangen i’w gweld ar yr hysbysiad. Ar ôl ei gyflwyno, mae cyfnod o ddim llai na 28 diwrnod cyn y daw’r hysbysiad i rym, i ganiatáu i’r sawl sy’n ei dderbyn apelio. Ar ôl i’r hysbysiad ddod i rym, mae cyfnod arall i ganiatáu cydymffurfio. Bydd y cyfnod cydymffurfio hwn yn amrywio gan ddibynnu ar natur yr achos honedig. Mae methu â chydymffurfio â hysbysiad gorfodi o fewn y cyfnod gofynnol yn drosedd a gall arwain at ddirwy sylweddol.

Yn ôl i frig y dudalen

Hysbysiadau Gorfodi Adeiladau Rhestredig

Mae’n drosedd dan Adran 9 Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 i addasu, ehangu neu ddymchwel strwythur rhestredig heb ganiatâd Adeilad Rhestredig. Mae Hysbysiad Gorfodi Adeilad Rhestredig yn ceisio adfer gwaith heb ei awdurdodi trwy:

  1. ei gwneud yn ofynnol i’r adeilad gael ei ddychwelyd i’w stad flaenorol
  2. os nad yw hynny’n rhesymol ymarferol neu’n ddymunol, ei gwneud yn ofynnol i waith arall gael ei wneud i leihau effeithiau’r gwaith heb ei awdurdodi
  3. ei gwneud yn ofynnol i adeilad gael ei addasu i’r stad y byddai ynddi pe cedwid at delerau unrhyw ganiatâd Adeilad Rhestredig

Rhaid i’r Hysbysiad nodi cyfnod o amser i sicrhau cydymffurfiaeth gyda’i ofynion. Mae hawl i apelio yn erbyn Hysbysiad Gorfodi Adeiladau Rhestredig; mae’r gweithdrefnau’n debyg i’r rhai sy’n cael eu defnyddio i apelio yn erbyn Hysbysiad Gorfodi.

Os yw’r gwaith sy’n destun Hysbysiad Gorfodi Adeiladau Rhestredig yn cael ei awdurdodi gan gais ôl-weithredol am ganiatâd Adeilad Rhestredig yn nes ymlaen, ni fydd yr hysbysiad mewn grym wedyn. Er hynny, bydd yr atebolrwydd i erlyniad am drosedd a gyflawnir cyn dyddiad unrhyw ganiatâd ôl-weithredol yn parhau. Mae’r gosb i droseddwyr yn cynnwys dirwy sylweddol, carcharu neu’r ddau.

Yn ôl i frig y dudalen

Hysbysiadau Torri Amodau

Gall Hysbysiad Torri Amod (HTA) gael ei gyflwyno pan na chedwir at amod sydd ynghlwm â chaniatâd cynllunio. Gan y gellir apelio yn erbyn gosod unrhyw amod ar adeg derbyn y caniatâd cynllunio, nid oes hawl i apelio yn erbyn HTA. Gall methu â chydymffurfio â HTA, os ceir rhywun yn euog o hynny, arwain at ddirwy.

Yn ôl i frig y dudalen

Hysbysiadau Atal a Hysbysiadau Atal Dros Dro

Gall y Cyngor gyflwyno Hysbysiad Atal neu Hysbysiad Atal Dros Dro er mwyn rhoi stop ar weithgarwch sy’n benodol niweidiol ar unwaith. Mae’r hysbysiadau hyn fel arfer yn cael eu cadw i ymdrin ag achosion honedig penodol ddifrifol o dorri rheolau – achosion ‘Blaenoriaeth 1’ (gweler sut i roi gwybod am achos honedig o dorri rheolaeth gynllunio) sy’n dal ar waith ac sy’n peri niwed di-droi’n-ôl.

Mae Hysbysiad Atal Dros Dro’n caniatáu i’r Cyngor atal gweithgarwch niweidiol er mwyn ymchwilio i’r mater yn fwy manwl ac, os yw hynny’n briodol, rhoi hysbysiad ffurfiol er mwyn adfer y niwed sydd wedi’i ganfod. Ni ellir ond cyflwyno Hysbysiad Atal ar yr un adeg â Hysbysiad Gorfodi neu ar ôl cyflwyno Hysbysiad Gorfodi, ac felly y defnydd gorau ohonynt yw i sicrhau nad yw gweithgarwch niweidiol yn parhau yn ystod gweithredoedd apelio.

Gall methu â chydymffurfio â Hysbysiad Atal neu Hysbysiad Atal Dros Dro arwain at ddirwy sylweddol.

Yn ôl i frig y dudalen

Hysbysiadau Rhybuddio am Gamau Gorfodi

Mae Hysbysiad Rhybuddio am Gamau Gorfodi’n ei gwneud yn ofynnol yn ffurfiol i’r sawl sy’n ei dderbyn geisio adfer honiad o dorri rheolau trwy wneud un o’r canlynol:

  • gwneud cais caniatâd cynllunio ôl-weithredol ar gyfer y datblygiad sydd heb ei awdurdodi
  • roi’r gorau i dorri’r rheolau, fel yr honnir

Mae cyflwyno Hysbysiad Rhybuddio am Gamau Gorfodi’n atal datblygiad heb ei awdurdodi rhag cael ei eithrio o gamau gorfodi eraill trwy dreigl amser (gweler datblygiadau nad ydynt yn destun camau gorfodi).

Bydd y Cyngor yn aml yn cyflwyno Hysbysiad Rhybuddio am Gamau Gweithredu mewn perthynas ag achosion honedig o dorri’r rheolau sydd, ar ôl asesiad cychwynnol, i’w gweld yn cyd-fynd â pholisi cynllunio mewn egwyddor. Maent yn cael eu neilltuo ar gyfer amgylchiadau lle, gan ddibynnu ar osod amodau, mae ‘rhagolygon rhesymol’ y byddai caniatâd cynllunio ôl-weithredol yn cael ei ganiatáu pe bai cais am hynny’n cael ei gyflwyno. Nid ydynt yn rhoi sicrwydd y bydd caniatâd cynllunio’n cael ei roi. Gallai methu â chydymffurfio â Hysbysiad Rhybuddio am Gamau Gweithredu arwain at gamau ffurfiol eraill; fel arfer, cyflwyno Hysbysiad Gorfodi llawn.

Yn ôl i frig y dudalen

Hysbysiadau eraill

Mae pŵer gan y Cyngor i gyflwyno mathau eraill o hysbysiadau ffurfiol, fel y rhai sy’n ymdrin â hysbysebion heb ganiatâd, eiddo blêr a gwaith heb ei awdurdodi mewn Ardaloedd Cadwraeth. Fel sy’n wir am yr hysbysiadau y soniwyd amdanynt uchod, bydd y cosbau am beidio â chydymffurfio a’r dewisiadau sydd ar gael i apelio i’w gweld un ai ar yr hysbysiad a gyflwynir neu ar atodiad ynghlwm ag o.

Yn ôl i frig y dudalen

Gwaharddebau

Os bydd y Cyngor yn credu bod achos o dorri rheolaeth gynllunio’n ddigon difrifol, gall wneud cais i’r Llysoedd am waharddeb atal. Gall y rhai sy’n torri gwaharddeb gael eu carcharu.

Yn ôl i frig y dudalen

Cyflwyno cais cynllunio

Efallai y bydd cyfarwyddyd i rai sy’n cael eu cyhuddo o dorri rheolau i geisio rheoleiddio datblygiad sydd heb ei awdurdodi trwy gyflwyno cais cynllunio. Er mwyn sicrhau bod y cais sy’n cael ei gyflwyno’n pasio gwiriadau dilysu – hynny yw, ei fod yn cynnwys yr holl ddogfennau rydym eu hangen er mwyn ymgynghori a phenderfynu ar y cais – cynghorir ymgeiswyr i gyflogi ymgynghorydd cynllunio. Mae hyn yn aml yn arbed amser ac arian i ymgeiswyr yn y pen draw. Fe ddewch chi o hyd i restr o asiantau yn Sir Ddinbych, ynghyd â chyngor cyffredinol ynglŷn â chyflwyno ceisiadau cynllunio, drwy fynd i'n tudalen cyngor cynllunio. Gall ein tîm cymorth hefyd ddarparu ychydig o gymorth os anfonwch e-bost i cynllunio@sirddinbych.gov.uk neu ffonio (01824) 706727.

Yn ôl i frig y dudalen

Peidio â phenderfynu ar geisiadau cynllunio ôl-weithredol

Mae’r pŵer gan y Cyngor i wrthod penderfynu ar geisiadau cynllunio ôl-weithredol ar gyfer datblygiadau sy’n destun hysbysiadau gorfodi.

Yn ôl i frig y dudalen

Hawl swyddogion i fynd ar dir

Mae gan y swyddog cydymffurfiaeth gynllunio hawl mynd ar dir er mwyn:

  • pennu a oes achos o dorri rheolaeth gynllunio
  • penderfynu a ddylai a sut y dylai pwerau’r Cyngor gael eu defnyddio
  • penderfynu a yw’r sawl dan sylw wedi cydymffurfio

Bydd unrhyw un sy’n fwriadol yn rhwystro swyddog awdurdodedig sy'n gweithredu i arfer hawl i gael mynediad yn euog o drosedd a bydd modd eu herlyn.

Yn ôl i frig y dudalen

Cysylltwch â ni

Gwefan: Cysylltu â ni: Cynllunio

Ebost: cynllunio@sirddinbych.gov.uk

Ffôn: (01824) 706727 (9am tan 1pm, dydd Llun i ddydd Gwener)

Yn ôl i frig y dudalen