Cofrestru enw stryd neu enw neu rif eiddo

(o 1 Ionawr 2026)

Mynd yn syth i:

Rydym yn codi ffioedd am wasanaethau sy’n ymwneud â chyfeiriadau, sy’n cynnwys:

  • newid enw eiddo presennol
  • ychwanegu enw at eiddo sydd eisoes wedi’i rifo
  • diweddaru cyfeiriadau ar ôl uno neu rannu eiddo
  • cofrestru cyfeiriad newydd ar gyfer un annedd newydd
  • cofrestru cyfeiriadau newydd ar gyfer mwy nag un annedd newydd
  • cofrestru strydoedd newydd
  • cais am lythyr cadarnhau cyfeiriad swyddogol

Sut i wneud cais

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cysylltu â ni i drafod eich cais cyn ei gyflwyno, er mwyn gwneud yn siŵr y gallwn ni ei brosesu cyn i chi dalu.

Darllenwch ein polisi enwi a rhifo strydoedd cyn gwneud cais. Mae ein tîm hefyd yn fwy na bodlon trafod unrhyw gwestiynau eraill sydd gennych chi mewn perthynas â chyfeiriadau.

Gwneud cais am wasanaeth cyfeiriadau ar lein

Os oes gennych chi gyfrif porth, neu os byddwch chi’n cofrestru i gael un, mae posib i chi gadw eich atebion wrth fynd ymlaen, a dod yn ôl at eich cais i’w gyflwyno rywbryd eto.

Dim ond gan rydd-ddeiliad yr eiddo dan sylw y derbynnir ceisiadau. Os ydych chi'n asiant sy'n gweithredu ar ran y rhydd-ddeiliad, rhaid i chi gyflwyno tystiolaeth o ganiatâd i weithredu ar eu rhan o fewn y cais.

Os yw'n berthnasol, dim ond ar ôl cael caniatâd cynllunio a dechrau’r gwaith ar y safle y dylech chi wneud cais. Ni fydd cwmnïau cyfleustodau yn fodlon gosod gwasanaethau heb gyfeiriad post a chod post swyddogol.

Yn ôl i frig y dudalen.

Cysylltwch â ni

Gallwch gysylltu â ni dros e-bost neu ein ffonio ar 01824 706000 (dydd Llun i ddydd Gwener 9am i 4pm).

Yn ôl i frig y dudalen.

Ffioedd

Ffioedd ar gyfer ceisiadau i enwi a rhifo strydoedd
Math o gaisFfiBeth fydd ei angen arnaf i gwblhau’r cais?
Newid enw tŷ £85 Yr enw newydd y gwneir cais amdano
Ychwanegu enw at eiddo sydd eisoes wedi’i rifo £85 Yr enw newydd y gwneir cais amdano
Addasu eiddo, gan gynnwys ei rannu / uno £85 yn ogystal â £40 am bob cyfeiriad ychwanegol a effeithir
  • Enw / lleoliad y datblygiad
  • Enw(au) / rhif(au) newydd y gwneir cais amdano/amdanynt, os yw’n berthnasol
  • Cyfeirnod cynllunio (os yw'n berthnasol) neu gynllun safle i ddangos pwynt(iau) mynediad yr eiddo
Cofrestru un uned / annedd / fflat newydd £120
  • Yr enw / rhif newydd y gwneir cais amdano
  • Cyfeirnod cynllunio (os yw'n berthnasol) neu gynllun safle i ddangos pwynt(iau) mynediad yr eiddo
Llythyr Cadarnhau Cyfeiriad £50 Manylion lleoliad yr eiddo (naill ai fel disgrifiad neu fel map / cynllun safle)
Mwy nag un annedd newydd £140 yn ogystal â £40 am bob plot
  • Enw / lleoliad y datblygiad
  • Cyfeirnod cynllunio
  • Manylion y datblygiad (e.e. math o anheddau ar y safle)
Cofrestru stryd newydd £140 am bob stryd Yr enwau strydoedd newydd a gynigir a'r rheswm am y cynnig (darllenwch ein Polisi Enwi a Rhifo Strydoedd am ganllawiau)
Newidiadau i gynllun a gyflwynwyd £55 am bob plot a effeithir Cyfeirnod Enwi a Rhifo Strydoedd, a ddarperir gan y Tîm Enwi a Rhifo Strydoedd
Cais i newid enw stryd gan breswyliwr (ac eithrio cost plât enw newydd) £550 yn ogystal â £70 am bob eiddo a effeithir (heb gynnwys cost platiau enw) Cysylltwch â'r Tîm Enwi a Rhifo Strydoedd i drafod hyn.

Nid yw TAW yn berthnasol ar gyfer y ffioedd hyn.

Gosodir y ffioedd hyn ar sail adennill costau ar gyfer gweinyddu gwasanaethau yn ymwneud ag enwi a rhifo strydoedd yn ôl disgresiwn a byddant yn cael eu hadolygu’n flynyddol.

Yn ôl i frig y dudalen.