Hyfforddiant a mentora

Mae hyfforddi a mentora yn ffyrdd o roi amser i bobl feddwl. Gall hyn gael effaith sylweddol ar ddatblygiad unigolion, a Chyngor Sir Ddinbych, yn ystod cyfnod o bwysau economaidd a newid parhaus. Rydym yn gallu cynnig ein gweithwyr gyfle i gael hyfforddiant a mentora gan ymarferwyr profiadol sydd wedi'u hyfforddi, mewn ffordd sydd mor syml ac mor effeithiol â phosibl.

Rydym eisiau datblygu arweinwyr uchelgeisiol a phresennol trwy roi lle ac amser iddynt feddwl a myfyrio, meithrin sgiliau newydd a chaniatáu iddynt archwilio a datblygu amrywiaeth o weithgareddau ymgysylltu, fel y gallant fod yn hyblyg a cryf, ac yn y pen draw gyflawni'r hyn sydd ei angen arnom.

Mae'r manteision cyffredin y mae pobl yn eu cael o hyfforddi a mentora yn cynnwys:

  • gwell ymgysylltiad a pherfformiad
  • effeithiolrwydd sefydliadol
  • gwell ymdeimlad o gyfeiriad a ffocws
  • mwy o wybodaeth am hunan a hunan-ymwybyddiaeth
  • gallu gwell i gysylltu â phobl eraill a'u dylanwadu
  • cymhelliant cryfach
  • effeithiolrwydd perfformiad gwell
  • mwy o ddyfeisgarwch
  • mwy o hyder

Pecyn cymorth hyfforddi a mentora (PDF, 725KB)

Hyffordwyr a Mentoriaid Sir Ddinbych

Dyma restr o'n holl hyfforddwyr a mentoriaid sydd ar gael :

  • Katie Newe
  • Samantha Williams
  • Alaw Pierce
  • Bethan Hughes

Ar ôl i chi gael amser i edrych ar y gwahanol broffiliau hyfforddwyr a mentoriaid sydd ar gael a'ch bod am barhau â'r broses, yna llenwch y ffurflen mynegi diddordeb a'i e.bostio at hrdirect@denbighshire.gov.uk.

Ffurflen mynegi diddordeb hyffordi / mentora (MS Word, 28KB)

Gallwch hefyd gwblhau ffurflen hunan-ddadansoddiad, fydd yn gofyn i chi feddwl pam dewis y llwybr hyn.

Ffurflen hunan-ddadansoddiad (MS Word, 14KB)